麻豆官网首页入口

Llafur yn methu addo dadwneud toriadau

  • Cyhoeddwyd
Owen Smith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Owen Smith yw Aelod Seneddol Pontypridd

Ni all Llafur addo y bydden nhw'n dadwneud y toriadau disgwyliedig fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr adolygiad gwariant, yn 么l ysgrifennydd Cymreig yr Wrthblaid Owen Smith.

Ond mae'n dweud byddai ei blaid yn benthyg er mwyn buddsoddi mewn prosiectau fel adeiladu ffyrdd os fydden nhw'n ennill mwyafrif yn etholiad 2015.

Mae Llywodraeth Cymru'n pryderu eu bod am orfod wynebu toriadau pellach fel rhan o'r adolygiad gwario.

Dywedodd Byron Davies o'r blaid Geidwadol ei fod yn cefnogi'r Canghellor yn llwyr - barn Bethan Jenkins o Blaid Cymru yw bod y Ceidwadwyr a Llafur yn "debyg iawn".

Arbedion

Mae disgwyl i'r Canghellor George Osborne esbonio sut mae'n bwriadu arbed 拢1.5 biliwn yn ystod ei gyhoeddiad ddydd Mercher.

Yn siarad ar raglen Sunday Politics y 麻豆官网首页入口 dywedodd Mr Smith y byddai'i blaid yn etifeddu dyled o 拢96 biliwn os bydden nhw'n curo yn 2015.

Dywedodd: "Byddai unrhyw ddarpar lywodraeth, unrhyw wrthwynebiad... yn gweld yr angen i gael golwg realistig ar yr hyn y bydd rhaid ei wneud i ddelio ag ef, ac mae hynny'n golygu na allwn ymrwymo ar hyn o bryd i wrthdroi'r toriadau pellach yr ydym yn eu rhagweld gan George Osborne."

Er hynny, byddai Llafur "dod i lywodraeth gyda set cwbl wahanol o werthoedd a blaenoriaethau a byddem yn gwneud penderfyniadau cwbl wahanol am sut y byddem yn lleihau'r diffyg mewn perthynas 芒'r gwerthoedd hynny ac mewn cytgord a'n dealltwriaeth sylfaenol o degwch".

Fyddai o ddim yn "rholio drosodd yn y ffordd mae'r Ysgifennydd Cymru presenol yn ei wneud drwy dderbyn y ffaith Cymru am gael toriadau pellach".

Diffyg

Mae llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru Byron Davies yn dweud ei fod yn cefnogi'r Canghellor.

Dywedodd: "Llywodraeth glymblaid yw hon sy'n cael ei harwain gan y Ceidwadwyr, roedd gennym ddiffyg a oedd heb ei weld ers yr Ail Ryfel Byd ac rydym wedi torri'r diffyg hwnnw o draean eisoes.

"Mae pawb yn gorfod gwneud arbedion... bydd yn rhaid i adrannau penodol y llywodraeth wneud arbedion a dyw llywodraeth Cymru ddim gwahanol. Rhaid iddyn nhw wneud arbedion hefyd."

Mae Aelod Cynulliad De Orllewin Cymru Bethan Jenkins yn credu bod Llafur a'r Ceidwadwyr yn "debyg iawn i'w gilydd".

"Rwy'n credu ei fod yn gwbl ragrithiol o Owen Smith i ddod yma a dweud bod angen bod yn rhesymol a realistig pan roeddent yn cynnig rhywbeth gwahanol - aeth iddyn nhw fod yn Dor茂aid coch nawr ddim," ychwanegodd.