麻豆官网首页入口

Ceisio gwerthu cig coch i Rwsia

  • Cyhoeddwyd
Defaid ar Fannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cig oen Cymru eisoes wedi llwyddo i gyrraedd y farchnad yng Nghanada

Bydd cynrychiolwyr o gwmn茂au cig o Gymru yn Moscow yr wythnos hon i geisio ennill archebion ar gyfer cig oen ac eidion.

Nod y daith, sy'n cael ei harwain gan Hybu Cig Cymru, yw cynyddu allforion cig coch o Gymru i Rwsia.

Fe fydd y cynrychiolwyr yn bresennol mewn derbyniad yn llysgenhadaeth Prydain yn Moscow a fydd yn cael ei gynnal gan Lysgennad Prydain, Tim Barrow, a Gweinidog Busnes Cymru Edwina Hart.

'Bwydydd o safon'

Dywedodd prif weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, bod y daith dri diwrnod yn benllanw blynyddoedd o drafod gyda'r awdurdodau yn Rwsia.

"Ers cwymp y llen haearn mae economi Rwsia wedi tyfu'n anferthol - felly hefyd gofynion ei thrigolion," meddai.

"Fel econom茂au eraill y dwyrain pell, mae cwsmeriaid yn Rwsia yn dod yn fwyfwy llewyrchus ac maen nhw'n chwilio am fwydydd o safon uchel mewn siopau a thai bwyta.

"Mae cig oen a chig eidion o Gymru yn berffaith felly."

Yn 么l Hybu Cig Cymru, fe ddaeth dirprwyaeth o archwilwyr o Rwsia i Gymru yn gynnar yn 2012 er mwyn gweld yr amodau ar ffermydd ac mewn ffatr茂oedd prosesu.

Llacio cyfyngiadau?

Mae rheolau yn Rwsia yn cyfyngu ar faint o gig eidion y mae modd ei fewnforio, ond does dim cyfyngiad o'r fath ar gig oen.

Ychwanegodd Mr Howells: "Mae hyn yn newyddion da i'r diwydiant cig oen, sydd 芒'r potensial i allforio maint sylweddol o gig oed Cymreig i'r wlad yn flynyddol.

"Rwyf hefyd yn optimistaidd y byddwn yn gweld cig eidion o Gymru ar werth yno'n fuan.

"Roedd allforion o gig oen a chig eidion o Gymru yn werth 拢218 miliwn i economi Cymru yn 2012, ac mae'r ffigwr yna'n si诺r o godi unwaith y byddwn wedi cael mynediad i'r farchnad yn Rwsia.

"Unwaith y bydd ffederasiwn Rwsia yn cytuno i fewnforio cig coch o Gymru, mae hynny'n golygu y gallwn allforio ein cynnyrch i Belarus a Kazakhstan sydd hefyd yn aelodau o'r gr诺p masnachu."

Mae Rwsia yn un o'r mewnforwyr mwyaf o gig eidion yn y byd. Pe bai cyfyngiadau'n cael eu llacio, yr amcangyfrif yw y bydd y farchnad gig eidion yn unig yn werth hyd at 拢115 miliwn i gynhyrchwyr o Brydain.

Bydd y cynrychiolwyr o'r diwydiant yn Moscow o ddydd Mercher, Mehefin 26 tan ddydd Gwener, Mehefin 28.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol