Gweinidog Addysg o dan y lach

Disgrifiad o'r llun, Dywed Leighton Andrews ei fod yn amau nad yw Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru
  • Awdur, James Williams
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cael ei feirniadu am gefnogi ymgyrch i gadw ysgol gynradd yn ei etholaeth ar agor - er bod y cynnig i gau'r ysgol hynny o ganlyniad i bolisi ei hun i fynd i'r afael 芒 llefydd gwag mewn ysgolion.

Mae Leighton Andrews, AC Llafur dros y Rhondda, wedi rhybuddio cynghorau Cymru bod yn rhaid iddynt gau ac uno ysgolion er mwyn mynd i'r afael 芒 llefydd gwag.

Er hynny, mae Mr Andrews wedi ysgrifennu gwrthwynebiad manwl i gynllun Cyngor Rhondda Cynon Taf i gau ysgol Pentre ar sail nad yw'r cyngor wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn gywir.

Hefyd, cafodd lun o'r gweinidog yn dal arwydd "Sicrhau Dyfodol Ysgol Gynradd Pentre" yn ystod protest ar ddechrau'r mis.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams bod angen i Mr Andrews "benderfynu - a yw e'n cytuno 芒'r polis茂au hynny ai peidio?"

Ymgynghoriad

Mae cyngor Rhondda Cynon Taf newydd gwblhau ymgynghoriad ynghylch cau Ysgol Gynradd Pentre.

Dim ond 73 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol sydd 芒 digon o le i gymryd 202, gan olygu bod 64% o leoedd heb eu llenwi.

Mae'r cyngor yn dweud mai dyma'r gyfradd uchaf o lefydd gwag yn y sir allan o'r 138 o ysgolion sydd ar gael.

Maent yn dweud ei bod nhw'n bwriadu mynd i'r afael a'r llefydd gwag trwy uno'r ysgol ag Ysgol Gynradd Treorci.

Mae'r gweinidog wedi galw llefydd gwag "yn dreth ar y disgyblion hynny sydd eisoes o fewn y system".

Mae cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi ymrwymo i leihau llefydd dros ben yn ei ysgolion cynradd i 16.7% erbyn 2016.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Leighton Andrews ei geryddu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones am fod yn rhan o brotest am ad-drefnu gwasanaethau iechyd

Ceryddu

Bu AC y Rhondda yng nghanol ffrae wleidyddol bythefnos yn 么l pan gafodd ei feirniadu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones am ddefnyddio enw'r Blaid Lafur i wrthwynebu toriadau posib i wasanaethau arbenigol damwain ac achosion brys yn yr Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd yn gwasanaethu ei etholaeth.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams bod gweithredoedd Mr Andrews ynghylch ysgol Pentre yn atgyfnerthu ei barn ei fod yn gweithio er lles ei etholaeth ar draul bolis茂au'r llywodraeth dro ar 么l tro.

Ond mae Mr Andrews wedi amddiffyn ei weithredoedd, gan ddweud ei fod wedi ymyrryd yn yr achos yma fel AC lleol yn hytrach nag fel y Gweinidog Addysg.

Dywedodd y gweinidog addysg: "Fel Aelod Cynulliad dros y Rhondda rwyf wedi gwneud cyflwyniad llawn iawn i gyngor Rhondda Cynon Taf ar y mater hwn.

"Rwyf hefyd wedi mynychu cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gr诺p rhieni ysgol Pentre, cyfarfod y gr诺p gweithredu, a mynychu eu protest yn ddiweddar.

"Rwyf hefyd wedi cyfarfod rhieni o Ysgol Gynradd Treorci sydd hefyd yn cael eu heffeithio gan y cynnig."

"Mae rhaid i bob awdurdod lleol, gan gynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, leihau llefydd dros ben.

"Mae yna ganllawiau clir gan Lywodraeth Cymru y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn pan maen nhw'n bwriadu cau unrhyw ysgol.

"Mae fy nghwestiynau i gyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn os ydy'r canllawiau hynny wedi cael ei dilyn yn yr achos yma.

"Nid ydw i'n mynd i ymddiheuro am sefyll cornel fy etholwyr yn y Rhondda."

'Ystyried gadael y cabinet'

Wrth ymateb, dywedodd Kirsty Williams: "Mae angen i Leighton Andrews wneud dewis ynghylch a yw am fod yn rhan o lywodraeth sy'n gweithredu polisi o ganoli o fewn y gwasanaeth iechyd ac sydd am weld ysgolion bach, ac ysgolion sydd 芒 llefydd gwag yn cau.

"Mae'n rhaid iddo benderfynu - a yw e'n cytuno 芒'r polis茂au hynny ai peidio?

"Os yw e, yna fe ddylai fod yn ei amddiffyn nhw ac esbonio pam eu bod nhw'r peth cywir i'w wneud, neu efallai y dylai ystyried gadael ei swydd yn y cabinet os yw'n teimlo y gallai ymgyrchu'n fwy effeithiol dros bolis茂au amgen o'r meinciau cefn."

Ychwanegodd y byddai rhieni mewn rhannau eraill o Gymru sydd wedi gweld eu hysgolion lleol yn cau oherwydd polisi llefydd gwag Mr Andrews yn "siomedig iawn".

'Awdurdodau'n araf'

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor y Cynulliad y llynedd, dywedodd Mr Andrews: "Mae pob lle gwag mewn ysgol yn dreth ar y disgyblion hynny sydd eisoes o fewn y system, ac mae angen cydnabod hynny.

"Yn wir, rydym yn arwain at sefyllfa lle bydd yna 20% o lefydd gwag mewn rhai ardaloedd, felly mae yna heriau sylweddol i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol i fynd i'r afael gyda nhw."

Roedd bron i 100,000 o lefydd gwag yng Nghymru yn 2011 - cynnydd sydyn o 2006.

Roedd Estyn, y corff arolygiaeth dros addysg, wedi bod yn hynod feirniadol o fethiant cynghorau Cymru i fynd i'r afael 芒'r mater o lefydd gwag.

Mewn adroddiad y llynedd, dywedodd y corff: "Ledled Cymru, mae ad-drefnu ysgolion wedi methu cadw i fyny 芒'r gostyngiad yn nifer y disgyblion.

"Yn 2011, roedd mwy o lefydd gwag nag yn 2006 ac nid oes unrhyw awdurdod lleol wedi cyrraedd lefel a argymhellir gan Lywodraeth Cymru o ddim mwy na 10% o lefydd gwag yn ysgolion cynradd nac uwchradd.

"Er bod rhai llefydd dros ben wedi cael eu dileu, yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol wedi bod yn araf i nodi a chwblhau prosiectau a fyddai'n arwain at arbedion sylweddol."

Ysgrifennodd Estyn arolygiad ym mis Mawrth 2012 yn dangos mai cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod a'r nifer uchaf o lefydd gwag yng Nghymru.