麻豆官网首页入口

S4C: gofyn am gyfarfod brys

  • Cyhoeddwyd
Meri HuwsFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Comisiynydd y Gymraeg: 'S4C ddim fel unrhyw sianel arall'

Mae Comisynydd y Gymraeg wedi ymuno 芒'r ddadl am ariannu S4C.

Eisoes mae yna bryderon y bydd mwy o gwtogi ar arian y sianel yn Adolygiad Gwariant Llywodraeth Prydain ddydd Mercher.

Mae Meri Huws wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller a galw am gyfarfod brys neu sgwrs ff么n frys i drafod sefyllfa S4C.

Ers ei sefydlu ym 1982, meddai, mae S4C wedi chwarae r么l bwysig o ehangu'r defnydd o Gymraeg.

Ymhellach mae'r sianel, meddai, wedi magu cefnogaeth eang ymysg poblogaeth Cymru ac yn meddu ar gefnogaeth drawsbleidiol.

'Ddim fel sianel arall'

Yn ei llythyr mae wedi dweud bod sawl rheswm pam na ddylid ystyried S4C fel unrhyw sianel arall.

Yn gynta', mae ar siaradwyr Cymraeg angen gwasanaeth teledu cynhwysfawr o ansawdd uchel yn eu hiaith eu hunain.

Yn ail, meddai, mae S4C yn ddarlledwr cyhoeddus unigryw sy'n gwasanaethu cymuned ieithyddol leiafrifol, yn darparu gwasanaeth fyddai'n anodd eithriadol i'r sector preifat ei gyflawni.

Yn drydydd, er mwyn cadw plwraliaeth y cyfryngau yng Nghymru, er mwyn diogelu rhag colli'r hyn a gr毛wyd ers 1982, ac er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu, dylid sicrhau cyllideb gynaliadwy ar gyfer S4C.

Statws

Yn bedwerydd, meddai, mae bodolaeth S4C fel sianel deledu annibynnol yn ffactor o bwys sylweddol o ran cynyddu a chynnal statws y Gymraeg.

Mae adran Ms Miller wedi dweud nad oes modd gwneud datganiad cyn cyhoeddiad y Trysorlys ddydd Mercher.

Dywedodd yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon: "... bydd y Canghellor yn gwneud datganiad am gynlluniau gwariant y llywodraeth ar gyfer 2015-16.

"Ni allwn ni wneud sylw ... cyn y cyhoeddiad."