Gweinidog Addysg yn ymddiswyddo

Disgrifiad o'r llun, Mae Leighton Andrews wedi ymddiswyddo fel Gweinidog Addysg Cymru

Mae Leighton Andrews wedi ymddiswyddo o'i swydd yng nghabinet Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Addysg.

Daw ei ymddiswyddiad yn dilyn diwrnod o ddadlau am ei safbwynt am ysgol yn ei etholaeth yn y Rhondda.

Roedd Simon Thomas o Blaid Cymru wedi honni bod Mr Andrews wedi mynd yn groes i g么d ymddygiad gweinidogion y llywodraeth.

Yn gynharach yn y dydd dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Kirsty Williams y dylai ystyried ei ddyfodol, ac fe ddywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew RT Davies y byddai wedi rhoi'r sac i Mr Andrews pe bai yn ei gabinet yntau.

Yn sesiwn holi'r prif weinidog yn y Senedd, gwrthododd Carwyn Jones ag amddiffyn Mr Andrews wrth i'r gwrthbleidiau honni ei fod wedi tanseilio'i bolisi ei hun.

Canllawiau

Cafodd Mr Andrews ei weld yn cefnogi ymgyrch i gadw Ysgol Gynradd Pentre yn y Rhondda ar agor yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf y dylid cau'r ysgol.

Gwnaed y penderfyniad gan y cyngor gan fod gormod o leoedd gwag yn yr ysgol, sef polisi Llywodraeth Cymru a luniwyd gan Mr Andrews ei hun.

Roedd ef wedi amddiffyn ei hun trwy ddweud ei fod yn credu nad oedd yr awdurdod wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru wrth gynnal ymgynghoriad ar y mater.

Mae c么d ymddygiad gweinidogion yn cynnwys y paragraff canlynol:-

"Lle mae gofyn i weinidog wneud penderfyniad ar eu portffolio eu hunain allai gael effaith ar eu hetholaethau neu ranbarthau, fe ddylen nhw gymryd gofal i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau.

"Mewn achosion lle mae gweinidogion yn ansicr os oes gwrthdaro neu beidio rhwng eu cyfrifoldebau gweinidogol ac etholaethol/rhanbarthol fe ddylen nhw ymgynghori gyda'r Prif Weinidog am benderfyniad sut i ddelio gyda'r mater."

Y llythyrau

Yn ei lythyr ymddiswyddo at y prif weinidog, dywedodd Mr Andrews:

"Annwyl Carwyn...

"Bu'n anrhydedd cael gwasanaethu yn eich cabinet ers eich penodiad fel prif weinidog yn Rhagfyr 2009.....

"Rwy'n falch o'r camau yr ydym wedi eu cymryd a fydd yn cryfhau'r sustem addysg yng Nghymru o'r ysgolion at y maes addysg uwch, gan gynnwys ein fframwaith llythrennedd a rhifedd newydd a'r Strategaeth Iaith Gymraeg.

"Fel yr ydych yn gwybod rwyf wedi bod, ac yn parhau i fod, yn eiriolwr tanbaid dros fy etholaeth yn y Rhondda, ac rwy'n difaru bod fy ymrwymiad i fy etholwyr wedi arwain at wrthdaro ymddangosol sydd wedi arwain at drafferthion i'ch llywodraeth.

"Rwy'n teimlo felly nad oes gen i ddewis ond cynnig fy ymddiswyddiad i chi heddiw. Bydd gan eich llywodraeth fy nghefnogaeth gyson a pharhaus wrth gwrs."

Roedd llythyr Carwyn Jones yn derbyn yr ymddiswyddiad yn cydnabod nad oedd Mr Andrews wedi dilyn y c么d ymddygiad, ac yn cadw'r drws ar agor iddo ddychwelyd i'r llywodraeth yn y dyfodol. Dywedodd:

"Rwy'n cydnabod bod tensiynau o bryd i'w gilydd rhwng r么l gweinidog yn y llywodraeth a gofynion etholaethol Aelod Cynulliad.

"Nod y c么d ymddygiad yw diffinio'r ffiniau rhwng y ddau beth, ac ar yr achlysur yma teimlaf fod y ddau beth wedi'u drysu.

"Mae gennyf barch mawr at eich sgiliau a'ch gallu, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd modd i chi wasanaethu yn Llywodraeth Cymru eto yn y dyfodol."