Ymddiswyddiad: Yr ymateb

Disgrifiad o'r llun, Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd Leighton Andrews ei fod yn teimlo nad oedd ganddo ddewis ond gadael y cabinet

Mae'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad a mudiadau addysg wedi bod yn ymateb i ymddiswyddiad Leighton Andrews fel Gweinidog Addysg Cymru ddydd Mawrth.

Cynigiodd Mr Andrews ei ymddiswyddiad i'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dilyn ffrae am benderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf i gau Ysgol Pentre yn etholaeth Mr Andrews yn y Rhondda.

Er mai polisi Mr Andrews arweiniodd at y penderfyniad, fe gafodd ei weld yn ymgyrchu gyda phobl leol yn erbyn cau'r ysgol.

Gwrthododd Mr Jones a chefnogi Mr Andrews yn sesiwn holi'r prif weinidog yn y Senedd, ac yn ddiweddarach fe dderbyniodd ymddiswyddiad y gweinidog.

'Anochel'

Wrth ymateb i'r ymddiswyddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies:

"Wedi methiant y prif weinidog i gefnogi safbwynt ei weinidog addysg roedd hi'n anochel y byddai'n rhaid iddo fynd.

"Mae gweithredoedd y gweinidog addysg dros Ysbyty Brenhinol Morgannwg a nawr cau ysgolion yn codi cwestiwn am ddoethineb y gweinidog addysg a hefyd doethineb y prif weinidog ei hun.

"Roedd y cyn weinidog addysg yn amlwg yn teimlo bod polis茂au Llywodraeth Cymru yn mynd yn groes i fuddiannau ei etholwyr ac fe ddewisodd ddweud hyn yn ei etholaeth ond nid oedd yn teimlo y medrai ddweud hynny yn y cabinet."

Llefarydd Plaid Cymru ar addysg yw Simon Thomas AC, ac fe ddywedodd:

"Mae safbwynt y gweinidog addysg ar leoedd gwag mewn ysgolion wedi cael ei danseilio gan ei weithredoedd, ac mae hynny'n tanseilio Llywodraeth Cymru

"Dyma'r penderfyniad cywir i'w wneud pan mae cyfrifoldeb casgliadol y cabinet wedi ei wrthod, a bod rhywun yn dadlau yn erbyn eich polis茂au eich hun.

"Rwy'n edrych ymlaen ar gael perthynas gweithiol adeiladol gyda'i olynydd er budd addysg yng Nghymru."

'Cyfnod o gynnwrf'

Roedd ymateb sefydliadau addysg yng Nghymru yn llai beirniadol. Dywedodd llefarydd ar ran Addysg Uwch Cymru:

"Mae'n ddrwg gennym glywed am y newyddion am ymddiswyddiad y gweinidog addysg a sgiliau.

"Rydym wedi cael perthynas gweithio adeiladol gyda'r gweinidog dros y blynyddoedd diweddar ar ystod eang o faterion addysg uwch, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau'r ddeialog yma gyda'i olynydd."

Yn 么l ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans: "Daw ymddiswyddiad y gweinidog mewn cyfnod o gynnwrf yn y sector.

"Mae perthynas dda rhwng Llywodraeth Cymru a'r proffesiwn addysg yn hanfodol wrth daclo'r heriau pwysig sy'n ein hwynebu.

"Yn naturiol byddwn yn ceisio cyfarfod 芒'r gweinidog newydd cyn gynted ag y bydd yn y swydd er mwyn trafod sut y gallwn weithio mewn partneriaeth er budd disgyblion Cymru."

Dywedodd cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, Anna Brychan: "Rwyf wedi fy syfrdanu gan y newyddion am ymddiswyddiad Leighton Andrews.

"Efallai nad oeddem ni'n cytuno ar adegau ond mae wedi gwneud cyfraniad grymus i bolisi addysg yng Nghymru a thu hwnt yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

"Dylid ei longyfarch am hynny. Er bod rhai o'n sgyrsiau yn heriol, does dim amheuaeth o'i ymrwymiad personol i'r agenda safonau yng Nghymru.

"Mae'r portffolio addysg yn bwysig dros ben i ddyfodol ein pobl ifanc: gobeithio y gallwn symud yn gyflym i sicrhau nad ydym yn colli momentwm."

'Cri o gymeradwyaeth'

Ar wefan Twitter, dywedodd cyn ysgrifennydd Cymru Peter Hain bod ymddiswyddiad Leighton Andrews yn "drychinebus i Lafur Cymru- gweinidog addysg galluog oedd yn gwrthod derbyn safonau isel".

Mae Chris Bryant yn cynrychioli etholaeth y Rhondda yn San Steffan, a dywedodd yntau:

"Rwy'n falch o Leighton Andrews. Rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno ei fod wedi bod yn weinidog addysg gwych.

"Nid yn unig hynny, ond mae e wedi ymadael 芒'i swydd fel gweinidog er mwyn brwydro dros bobl y Rhondda; dros Ysgol Gynradd Pentre ond hefyd i gadw gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

"Rwy'n credu y bydd cri o gymeradwyaeth yn y cymoedd heno i Leighton Andrews."