麻豆官网首页入口

Protestiadau yn erbyn toriadau

  • Cyhoeddwyd
George Osborne
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddodd y Canhellor George Osborne fanylion yr adolygiad gwariant ddydd Mercher

Mae aelodau undeb y PCS yn cynnal protestiadau yn erbyn toriadau ariannol tu allan i'r Cynulliad ym Mae Caerdydd ddydd Iau.

Yn y cyfamser, mae aelodau eraill yn protestio yn y gwaith yn sgil cyhoeddiad George Osborne y bydd 拢11.5 biliwn pellach yn cael ei dorri o'r gyllideb yn 2015-16.

Tu allan i'r Cynulliad mae Katrine Williams, cadeirydd yr undeb yng Nghymru'n annerch y dorf yn ogystal 芒 Ramon Corria o Gyngor Undebau Llafur Caerdydd a David Evans Llywydd TUC Cymru.

Dau AC

Yno'n annerch hefyd mae dau AC, Mick Antoniw o'r Blaid Lafur a Lindsay Whittle o Blaid Cymru.

Mae protestiadau'n digwydd yn swyddfa'r DVLA yn Abertawe a swyddfa'r ONS yng Nghasnewydd.

Dywedodd ysgrifennydd gweithredol yr undeb yng Nghymru, Darren Williams: "Nid yw strategaeth economaidd y llywodraeth yn gweithio ac mae'r toriadau diweddar yma yn dangos anobaith llwyr.

"Bydd y toriadau'n niweidio economi Cymru wrth i lai o arian gael ei wario yn ein siopau, busnesau a gwasanaethau a bydd hyn yn arwain at golli mwy o swyddi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol