Cam nesaf i addysg yn Nhorfaen

Disgrifiad o'r llun, Cafodd addysg yn Nhorfaen ei roi mewn mesurau arbennig yn dilyn adroddiad beirniadol

Mae cynghorwyr Torfaen wedi cytuno trosglwyddo'r cyfrifoldeb am addysg y sir i fwrdd rhanbarthol.

Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) fydd nawr yn gyfrifol am ysgolion yr ardal.

Cafodd y GCA ei sefydlu flwyddyn ddiwethaf er mwyn mynd i'r afael a safonau isel yn yr ardal.

Mae'r bwrdd y GCA yn cynnwys aelodau o bum awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru sydd ddim yn gyfrifol am y portffolio addysg o fewn eu cynghorau addysg.

Yr awdurdodau hyn yw Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen.

Mesurau arbennig

Pwrpas y GCA yw gwella safon addysg yn yr ardal drwy wella cydweithio rhwng gwahanol sefydliadau addysg a gwella "gwasanaethau rheng flaen".

Roedd addysg yn Nhorfaen eisoes mewn mesurau arbennig wedi i Estyn ddweud nad oedd safon yr addysg yno'n gwella yn ddigon cyflym.

Estyn yw'r corff sy'n gyfrifol am gynnal ac arolygu safonau yng Nghymru.

Bydd swydd prif swyddog addysg Cyngor Torfan yn cael ei dileu, a bydd deilydd bresennol y swydd Mark Provis yn colli ei swydd.

Dywedodd Brian Mawby, sy'n gyfrifol am blant a phobl ifanc ar Gyngor Torfaen: "Fel aelod blaenorol fwrdd y GCA, rwyf eisoes wedi bod yn dyst i'r effaith y gall gyfuno adnoddau ei gael ar wella ysgolion.

"Am y rheswm hwnnw, yr wyf yn hyderus y bydd GCA yn darparu gwerth ychwanegol o rannu eu harbenigedd ac adnoddau, a bydd hyn yn y pen draw yn gwella cyrhaeddiad addysgol ein plant a'u cyfle i gystadlu yn y gweithle cenedlaethol a byd-eang.

"Mae hefyd yn galonogol i gynghorwyr Torfaen bod y model y GCA wedi cael ei gydnabod gan Estyn fel y model addysg cydweithredol mwyaf datblygedig yng Nghymru i ysgogi gwelliant."

Adroddiad Hill

Mae pump awdurdod arall yng Nghymru hefyd mewn mesurau arbennig.

Mewn adroddiad diweddar gan yr arbenigwr addysg Robert Hill roedd argymhelliad y dylai nifer yr awdurdodau addysg yng Nghymru cael ei dorri o 22 i 14.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud y gallai addysg gael ei redeg gan gonsortia rhanbarthol gydag arweinwyr y cynghorau'n aelodau o'r bwrdd o fis Ebrill nesaf ymlaen.