'Angen sylw i'r Gymraeg mewn deddf gynllunio'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r mudiad iaith yn dweud nad yw Tan 20 yn ddigon cryf

Mi ddylai materion yr iaith Gymraeg fod yn amlwg mewn deddf gynllunio newydd, meddai aelod o'r mudiad iaith Dyfodol i'r Iaith.

Yn 么l y cyfreithiwr Emyr Lewis, mae angen cryfhau y Gymraeg o fewn y gyfraith gynllunio gan nad yw'r nodyn TAN 20 sydd yn bodoli ar hyn o bryd yn ddigon cryf.

TAN 20 yw'r unig ganllaw cenedlaethol sy'n bodoli o ran sut y dylai awdurdodau lleol Cymru ddelio 芒 cheisiadau allai effeithio ar siaradwyr Cymraeg lle mae'r iaith Gymraeg yn "rhan o'r drefn gymdeithasol."

Dehongliad

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cyhoeddi fersiwn newydd o hwnnw, fydd o byth yn ddigon i ddiogelu'r iaith, meddai Emyr Lewis.

"Dim ond nodyn cyngor gan Llywodraeth Cymru ydy hwn. Oherwydd mae nodyn cyngor ydy o mae o yn agored i amryw o ddehongliadau. Fydd TAN 20 ddim yn gosod sylfaen gadarn."

Dywedodd fod y cyfrifiad diweddar wedi dangos dirywiad y Gymraeg a bod rhai elfennau o ddatblygu tai yn gwanhau'r iaith.

Mae'r mudiad iaith, sy'n cynnal ei gyfarfod cyntaf blynyddol ar Faes yr Eisteddfod, wedi dweud y dylai unrhyw benderfyniadau cynllunio gymryd ystyriaeth o'r iaith ac na ddylai unrhyw ddatblygiad danseilio'r Gymraeg yn yr ardal honno.

Targedau

Yn 么l Dyfodol i'r Iaith, mae angen ail edrych ar y targedau codi tai am fod yr economi wedi dirywio ers y 90au pan y cafodd y targedau eu creu.

Yn eu dogfen "Arolwg o flwyddyn gyntaf mudiad Dyfodol i'r Iaith" maen nhw'n dweud: "Bellach mae'r sefyllfa economaidd wedi newid yn sylfaenol ac mae'n amlwg nad oes angen codi cynifer o dai newydd yng Nghymru gyda chynifer o dai gweigion ar gael."

Mae'r ddogfen hefyd yn nodi bod angen rhoi mwy o bwyslais ar roi tai i bobl leol.

"O ran tai cymdeithasol, mae cartrefu pobl o rannau eraill o'r DU mewn ardaloedd Cymraeg heb ddim ymdrech i'w cymhathu yn tarfu ar natur ieithyddol y cymunedau hynny. Gall iaith pentref newid fwy neu lai dros nos mewn amgylchiadau o'r fath.

"Mae angen newid y system bwyntiau i bwyso o blaid pobl leol ac mae angen diffiniad clir o'r hyn a olygir wrth 'lleol'."

Asiantaeth iaith?

Un syniad sydd wedi ei grybwyll gan rai, meddai Emyr Lewis, yw cael asiantaeth yn debyg i CADW mewn "ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol".

Un o brif swyddogaethau CADW yw gwarchod safleoedd hanesyddol pwysig ac yn yr un modd byddai asiantaeth newydd yn gwarchod yr iaith, meddai.

"Agor y drws o ran y drafodaeth" yw bwriad y cyfreithiwr ond mae'n dweud bod angen rhywbeth mwy cadarn o fewn y maes cynllunio i ddiogelu'r Gymraeg.