Drama am Bradley Manning yn ennill gwobr lenyddol

Ffynhonnell y llun, Farrows Creative/Theatr Genedlaethol Saesneg

Disgrifiad o'r llun, Aelod o'r cast: Harry Ferrier

Mae drama am hanes y milwr Bradley Manning wedi ennill gwobr lenyddol yng Nghaeredin.

Fe gafwyd ef yn euog yr wythnos ddiwethaf o ryddhau miloedd o ddogfennau cyfrinachol i wefan Wikileaks.

Enillodd The Radicalisation Of Bradley Manning gan Tim Price gystadleuaeth James Tait Black ac mae'r wobr yn werth 拢10,000.

Dywedodd Tim, cyn-isolygydd ar bapurau Trinity yn Ne Cymru: "Mae cynhyrchiad National Theatre Wales yn cael ei berfformio yng Nghaeredin yn ystod mis Awst.

'Emosiynol'

"Dwi'n gobeithio y bydd y wobr yn perswadio mwy o bobol i wylio'r ddrama."

Dywedodd un o'r beirniaid, Neil Murray o Theatr Genedlaethol yr Alban: "Mae ei ddrama'n ysgogi ymateb emosiynol ar sawl lefel, yn herio ein ffordd o feddwl ac yn datgelu ffeithiau nad oedden ni'n gwybod amdanyn nhw.

"Mae ei lais yn unigryw."

Mae'r ddrama yn olrhain bywyd Manning o'i arddegau cynnar yn Sir Benfro i'r cyfnod presennol.

Ffynhonnell y llun, NASA

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ddrama yn olrhain bywyd Manning o'i arddegau cynnar yn sir Benfro i'r cyfnod presennol.