Ymgynghori o'r newydd ar addysg gynradd cyfrwng Cymraeg

Disgrifiad o'r fideo, Cafodd y cynnig i ehangu Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn hytrach na chodi ysgol newydd sbon yn Grangetown ei anfon yn 么l i'r Cabinet gan Bwyllgor Craffu.

Mae'n ymddangos y bydd ymgynghori o'r newydd ar addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd.

Roedd Cabinet y Cyngor yn ystyried ehangu Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn hytrach na chodi ysgol newydd sbon yn Grangetown.

Ond prynhawn Mawrth fe gafodd y syniad hwnnw ei anfon yn 么l i'r Cabinet gan bwyllgor craffu.

Fe ddigwyddodd hynny ar 么l i'r cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg, Julia Magill, ddweud, yn annisgwyl, bod angen ymgynghoriad ehangach ar addysg yn y ddwy iaith.

Roedd pwyllgor craffu plant a phobl ifanc Cyngor Caerdydd yn cwrdd brynhawn Mawrth i drafod penderfyniad Cyngor Caerdydd i fwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ar ymestyn y ddarpariaeth sydd ar gael yn Ysgol Pwll Coch.

'Torri cytundeb'

Yn 么l ymgyrchwyr roedd y penderfyniad hwnnw yn mynd yn groes i addewid y cyngor i adeiladu ysgol cyfrwng Gymraeg yn ardal Grangetown.

Disgrifiad o'r llun, Yn Grangetown yn unig mae 'na gynlluniau i godi miloedd yn rhagor o dai - a gyda'r rhain y daw teuluoedd.

Yn 么l Dr Dyfed Wyn Huws, cyd-gadeirydd ymgyrch TAG, cyn y cyfarfod: "Mae'r cyngor wedi torri'r cytundeb i adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Grangetown, ac yn hytrach yn cynnig ymestyn Ysgol Pwll Coch, a leolir yn Nhreganna (sydd eisoes gyda dros fil o leoedd ysgol cynradd cyfrwng Cymraeg), mewn ymgais amhriodol i gwrdd 芒'r galw".

Ymhlith y rhai oedd wedi'u gwahodd i gyflwyno tystiolaeth yn y cyfarfod yr oedd rhieni lleol, aelodau Ymgyrch TAG (Trebiwt a Grangetown), cyfreithiwr mygedol Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Pwll Coch.

Cynllun datblygu

Yn gefndir i hyn i gyd mae cynllun datblygu'r brifddinas. Yn Grangetown yn unig mae 'na gynlluniau i godi miloedd yn rhagor o dai - a gyda'r rhain y daw teuluoedd.

Mae'r cyngor yn meddwl y bydd chwarter y plant o'r teuluoedd yma'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg - a'r gweddill i rai Saesneg.

Gan ystyried hynny, aethon nhw ati i amcangyfrif faint o alw fydd am lefydd mewn dwy flynedd.

O ran galw am addysg Gymraeg yn Grangetown bryd hynny, fe fydd ychydig dros ddeugain gyda'r datblygiadau tai presennol ac 16 yn ychwanegol yn sgil y datblygiadau tai newydd yn yr ardal, yn 么l yr amcangyfrif.