麻豆官网首页入口

Galw am warchod y Gymraeg wrth ad-drefnu llywodraeth leol

  • Cyhoeddwyd
Robin Farrar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Robin Farrar yn dweud na ddylai newidiadau i lywodraeth leol effeithio ar y Gymraeg

Mae gr诺p ymgyrchu wedi rhybuddio na ddylai unrhyw ad-drefnu o fewn llywodraeth leol yng Nghymru effeithio ar yr iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnal adolygiad i'r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu.

Mae'r adolygiad yn cael ei weld fel ymgais i gyrraedd consensws ar gwtogi nifer y cynghorau sir.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud na ddylai unrhyw ad-drefnu effeithio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Ad-drefnu

Cafodd llywodraeth leol yng Nghymru ei ad-drefnu yn 1996, pan gafodd 22 o awdurdodau lleol eu creu yn lle'r saith blaenorol.

Yn ddiweddar mae sawl ffigwr blaenllaw wedi galw am leihau'r nifer yma er mwyn arbed arian.

Ond mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, yn dweud na ddylai hyn effeithio ar ddefnydd y Gymraeg o fewn cynghorau.

Mae Mr Farrar yn poeni y gall uno effeithio ar gynghorau fel Gwynedd, sydd yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fewnol.

"Dydyn ni ddim yn credu o reidrwydd bod angen uno cynghorau sir, ond os gwneud hynny rydym ni eisiau gweld hynny'n cael effaith gadarnhaol, nid effaith sy'n mynd i beryglu'r iaith Gymraeg ymhellach," meddai Mr Farrar ar raglen y Post Cyntaf ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

"Rydym ni'n credu y byddai cyflwyno mwy o wasanaethau ar batrwm gogledd Cymru, ar draws y chwe sir, yn cael effaith negyddol ar y weinyddiaeth a'r gweithredu mewnol sydd yma ar hyn o bryd yng nghyngor Gwynedd."

Awgrymodd Mr Farrar y byddai rhoi mwy o rym i lywodraeth fwy lleol yn cael gwell effaith.

"O ddilyn patrwm arall, Gwynedd a M么n efallai, o roi mwy o rym i lywodraeth fwy lleol fyth yn ein cynghorau cymuned ni, gallwn ni gael effaith fwy cadarnhaol."

'Llai o wleidyddion'

Fis diwetha' dywedodd cyn arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies bod y nifer presennol o gynghorau yn ormod.

Hoffai Mr Davies, cyn arweinydd Cyngor Sir Benfro, weld mwy o gyd-weithio mewn llywodraeth leol, a lleihau nifer y gwleidyddion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyn arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies, wedi galw am leihau nifer y cynghorau

Cyn pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Paul Williams, sy'n cadeirio'r comisiwn, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd unrhyw newidiadau yn digwydd cyn Etholiad y Cynulliad yn 2016.

Os bydd y comisiwn yn argymell uno cynghorau, dywedodd Robin Farrar ei fod yn gobeithio gweld mwy o gynghorau yn mabwysiadu polisi iaith debyg i Gyngor Gwynedd.

"Ar hyn o bryd, os ydych chi'n mynd am swydd hefo cyngor sir, mae 'na beryg fel siaradwr Cymraeg y byddech yn gweithio drwy'r Saesneg - dydy hynny ddim yn dderbyniol.

"Rydym ni'n credu bod hynny'n groes i hawliau'r gweithwyr ac yn groes i ddiddordeb yr iaith Gymraeg. Dyna pam rydym ni'n pwyso ar Gyngor Sir Gar i sicrhau eu bod nhw'n symud tuag at weithredu drwy'r Gymraeg.

"Rydym ni wedi gweld hynny'n newid yma yng Ngwynedd, mae 'na rannau o'r sir sydd wedi gweld cynnydd hyd yn oed yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

"Yn sicr dydyn ni ddim wedi gweld yr un math o ddirywiad ac mewn ardaloedd eraill o Gymru, ac mae'r gweithredu mewnol yn rhannol i ddiolch am hynny."

Mae disgwyl i'r Comisiwn adrodd canlyniadau'r adolygiad erbyn diwedd 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol