Llafur am ddileu'r 'dreth stafell wely'

Disgrifiad o'r llun, Ed Miliband: 'Mae Llafur un genedl yn cyfarfod yn Brighton i s么n am y mater pwysicaf mae teuluoedd Prydain yn ei wynebu, y cynnydd mewn costau byw.'

Mae Arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi dweud ddydd Sadwrn y bydd ei blaid yn dileu'r "dreth stafell wely" petaen nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol.

Mewn araith yng nghynhadledd ei blaid yn Brighton dywedodd Mr Miliband ei fod ef a Changhellor yr Wrthblaid Ed Balls wedi darganfod ffordd i dalu am wrthdroi'r polisi.

Daeth y newidiadau i'r budd-dal tai i rym ym mis Ebrill.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod y newidiadau yn gwneud y system fudd-daliadau yn decach.

'Cymhorthdal'

Hwn yw'r tro cyntaf i Lafur ddweud y byddan nhw'n cael gwared ar yr hyn maen nhw'n ei alw yn "dreth stafell wely".

Nid yw'r llywodraeth yn cydnabod bod y term yn gywir - maen nhw'n cyfeirio at "gymhorthdal stafell sb芒r".

Mae'r newid yn golygu bod rhaid i nifer stafelloedd gwely mewn t欧 neu fflat gyfateb yn union i nifer y bobl sy'n byw yno.

Os nad ydyn nhw, bydd gostyngiad yng nghymhorthdal tai'r tenant.

Dywedodd Mr Miliband: "Mae Llafur un genedl yn cyfarfod yma yn Brighton i s么n am y mater pwysicaf mae teuluoedd Prydain yn ei wynebu, y cynnydd mewn costau byw.

'Symbol'

"Y dreth stafell wely ... symbol o lywodraeth Dor茂aidd sy'n gwarchod buddiannau yr ychydig sy'n freintiedig, ond byth eich rhai chi.

"Felly fe fydden ni'n cael gwared arni. Ac yn fwy na hynny fe alla i ddweud wrthoch chi sut.

Bwriad Mr Miliband fydd talu am y polisi newydd drwy "ddileu toriad treth o 拢150m ar gronfeydd arbed penodol, ... a mynd i'r afael 芒 thwyll treth".

Mae'r Trysorlys wedi honni y byddai dileu'r "dreth stafell wely" yn golygu treth ar bensiynau.

"Ar 么l oedi am dair blynedd mae eu hymroddiad polisi cyntaf yn golygu mwy o wario ar fudd-dal tai wedi ei ariannu gan dreth ar bensiynau a mwy o fenthyg," meddai'r Gweinidog Trysorlys Sajid Javid.

"Er iddo addo benthyca 'disgybledig,' mae Ed Miliband yn rhy wan i gyflawni hyn."