麻豆官网首页入口

Jones: Cymru yn 'esiampl' i Lafur

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones ac Ed MilibandFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carwyn Jones wedi annerch y dorf yn Brighton

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud wrth gynhadledd y blaid Lafur bod ei lywodraeth yn "esiampl fyw" o be all y blaid ei gyflawni mewn grym.

Wrth annerch y dorf yn Brighton, amddiffynnodd record y blaid ar swyddi, y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud na fydd Llafur yn gallu fforddio'r holl bolisiau y mae Ed Miliband wedi eu cyhoeddi.

Ond ddydd Sul, dywedodd Llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith bod y costau wedi eu hystyried.

'Esiampl fyw'

Siaradodd Mr Jones am record ei blaid yng Nghymru.

"Mae gennym ni bolisiau gwahanol yng Nghymru oherwydd eu bod nhw'n iawn i'n pobl ni," meddai.

"Rydym yn adeiladu Cymru sy'n esiampl fyw o'r hyn all gwerthoedd y blaid Lafur ei gyflawni mewn grym."

Mae arweinydd y blaid, Ed Miliband wedi cyhoeddi nifer o bolis茂au yng nghynhadledd flynyddol Llafur, i geisio mynd i'r afael a beth mae'n alw'n "argyfwng" costau byw.

Ymysg y polis茂au y mae Llafur yn dweud y byddant yn newid yw'r newid i fudd-dal tai i deuluoedd gyda 'stafell wely sb芒r, neu'r 'dreth ystafell wely'.

Mae gwybodaeth gan y Ceidwadwyr yn dweud y byddai angen benthyg 拢1,000 yn ychwanegol i bob cartref yn 2015, i weithredu newidiadau Llafur.

'Chwerthinllyd'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Owen Smith bod ystyriaeth ariannol wedi ei roi i'r polisiau newydd

Ond dywedodd Owen Smith nad oedd hynny'n wir.

"Byddwn yn talu amdano drwy newid cloerdyllau yn y gyfraith, gafodd ei gyflwyno gan y Tor茂aid, sy'n galluogi talu llai o drethi ar fuddsoddiadau - mae hynny'n 拢150 miliwn," meddai Mr Smith wrth y 麻豆官网首页入口.

"Byddwn yn cael gwared ar y syniad chwerthinllyd y gall weithwyr werthu eu hawliau am gyfranddaliadau, a chyflwyno newidiadau eraill i gynnig buddion i'r diwydiant adeiladu."

Yn siarad cyn cynhadledd y blaid lafur yn Brighton, dywedodd Mr Smith ei fod yn falch bod Mr Miliband wedi cyhoeddi ei fwriad i gael gwared ar y 'dreth ystafell wely'.

"Ni fydd y polisi yn gweithio oherwydd diffyg tai addas, a ni fydd yn arbed 拢470m fel mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl."

"Yn syml mae'n annheg ac yn anghywir."