麻豆官网首页入口

Pisa: Carwyn Jones yn disgwyl gwelliant

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn Jones: "Rwy'n disgwyl gweld bod canlyniadau Cymru wedi gwella"

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn disgwyl gweld canlyniadau Pisa Cymru yn gwella pan mae canlyniadau profion 2013 yn cael eu cyhoeddi.

Ymateb i gwestiwn gan Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd Mr Jones wedi iddi ofyn iddo a oedd o'n poeni am y canlyniadau yn dilyn cyhoeddiad adroddiad diweddar gan Estyn.

Roedd yr adroddiad yn dangos bod perfformiad mathemateg yng Nghymru yn wannach na'r pynciau craidd eraill ac yn is nac yng ngweddill gwledydd Prydain.

Ond dywedodd y prif weinidog ei fod yn ffyddiog y bydd yna gynnydd ym mherfformiad Cymru pan fydd y canlyniadau Pisa yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Profion rhyngwladol

Mae profion Pisa yn cymharu perfformiad disgyblion 15 oed o wahanol wledydd mewn tri maes allweddol: darllen, gwyddoniaeth a mathemateg.

Bob blwyddyn mae'r profion yn canolbwyntio ar un o'r meysydd hyn a'r ffocws ym mhrofion 2012 oedd mathemateg.

Cafodd y canlyniadau diwethaf eu ac roeddent yn ymwneud 芒 phrofion 2009 pan mai darllen oedd y prif ffocws, er bod gwyddoniaeth a mathemateg hefyd yn rhan o'r canlyniadau.

Cymru oedd y gwannaf o holl wledydd Prydain o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Allan o'r 67 gwlad oedd yn cymryd rhan, roedd Cymru yn 40fed mewn mathemateg - ond dywedodd Mr Jones ei fod yn disgwyl gweld Cymru'n codi pan fydd canlyniadau profion 2012 yn cael eu cyhoeddi.

'Disgwyl gwella'

Gofynnodd Kirsty Williams iddo yn ystod cwestiynau'r prif weinidog: "Mae'r adroddiad diweddaraf gan Estyn yn dangos bod disgyblion yn Lloegr yn fwy tebygol o gael C na disgyblion yng Nghymru...

"Allwch chi ddim bod yn fodlon gyda hyn - dyw pethau ddim yn argoeli'n dda ar gyfer y canlyniadau Pisa nesaf, nac ydyn?"

Gwadodd Mr Jones bod hynny'n wir. "Rwy'n disgwyl gweld bod canlyniadau Cymru wedi gwella," meddai.

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar 3 Rhagfyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol