麻豆官网首页入口

TAN 20: Beirniadaeth

  • Cyhoeddwyd
Codi tai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gweinidog: Canllawiau'n golygu bod 'awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg'.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod Nodyn Cyngor Technegol diwygiedig TAN 20 yn cynnwys gwendidau.

Dywedodd y Gweinidog Tai Carl Sargeant y byddai'r canllawiau yn golygu bod "awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg".

Dywedodd Cen Llwyd ar ran y mudiad iaith na fyddai'r canllawiau newydd yn cael effaith ar Gynlluniau Datblygu Lleol sydd wedi cael eu mabwysiadu'n barod.

Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi beirniadu'r TAN 20 diwygiedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau y bydd TAN20 yn werthfawr i awdurdodau sydd eisoes wedi gwneud eu cynlluniau datblygu wrth iddyn nhw baratoi eu canllawiau cynllunio atodol.

'Angen difrifol'

Dywedodd Cen Llwyd ar ran y mudiad iaith: "Mae'r system gynllunio yn lladd y Gymraeg ar hyn o bryd.

"Byddwn ni'n ystyried y nodyn newydd yn fanwl, ond mae'r gwendidau ynddo fe yn dangos angen difrifol am newidiadau mwy sylfaenol i'r system gynllunio'n ehangach, a hefyd Arolygiaeth Gynllunio Annibynnol i Gymru.

"Mae nifer fawr o awdurdodau wedi mabwysiadu eu cynlluniau datblygu lleol yn barod, a dyw'r canllawiau ddim yn delio 芒'r broblem honno.

"Dyna pam anfonon ni bapur safbwynt manwl at Carwyn Jones.

"Mae'r ffaith bod y nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol yn rhyfedd iawn.

"Dyw'r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith."

'Newid dim'

Mae Alun Ffred Jones o Blaid Cymru wedi dweud: "Ni fydd llawer o'r argymhellion hyn yn cael eu gweithredu am hyd at bedair blynedd o fewn yr awdurdodau lleol lle mae Cynlluniau Datblygu Lleol eisoes wedi cael eu cytuno, a bydd felly yn newid dim.

"Mae'r rhan fwyaf o Nodiadau Cyngor Technegol yn cael effaith yn syth ond mae hwn yn ymwneud yn fwy a'r broses 芒'i gweithredu a bydd yn dibynnu ar agweddau rhai o'r awdurdodau lleol ynghylch hybu'r iaith.

"Mae'n ddogfen wan sy'n ddiffygiol o ran cydlyniant."

'Methiant'

Dywedodd Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r oedi a fu yn cynhyrchu'r canllawiau newydd yn golygu nad yw cynlluniau sydd eisoes wedi cael eu gwneud gan rai awdurdodau mor gadarn ag y gallan nhw fod.

"Dyw'r datganiad yma ddim yn cyfeirio at y camau ymarferol fydd yn cael eu cymryd yn y broses cyn i'r Cynlluniau Datblygu Lleol gael eu mabwysiadu gan yr awdurdodau hynny.

"Gan ystyried methiant Llywodraeth Cymru i gadw at eu hamserlenni eu hunain wrth gynhyrchu'r canllawiau yma, dydi o ddim yn dderbyniol ein bod am orfod disgwyl am arweiniad pellach cyn y gallan nhw ddweud fod ganddynt bolisi llawn mewn lle i amddiffyn yr iaith Gymraeg."