Cynghorau 'ddim yn barod am doriadau'

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai cynghorau wedi cyhoeddi sut maen nhw'n bwriadu arbed arian o'r gyllideb

Nid yw cynghorau'n barod am faint y toriadau maen nhw yn eu hwynebu, yn 么l y corff sy'n eu cynrychioli.

Mae'r rhybudd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) cyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol gyhoeddi faint yn union y bydd pob cyngor yn ei dderbyn.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'r arian mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn ar gyfer 2014-15 拢182 miliwn yn llai na'r flwyddyn bresennol.

Roedd hyn oherwydd penderfyniad i wario mwy ar iechyd dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Toriadau

Bydd yr arian sydd yn cael ei wario ar lywodraeth leol yn gostwng o 拢4.648 biliwn eleni i 拢4.466 biliwn y flwyddyn nesaf - toriad o 3.91%.

Ond mae'r toriad hwn yn cyfateb i doriad o 5.81% o gofio effeithiau chwyddiant.

Golyga hyn y bydd cyllidebau cynghorau 9% yn llai mewn termau real rhwng nawr a 2015-16.

Disgrifiad o'r llun, Mae Dyfed Edwards yn credu bod rhai cynghorau wedi cynllunio yn well nac eraill

Bydd y gweinidog Lesley Griffiths yn cyhoeddi cyllideb pob awdurdod lleol brynhawn Mercher.

Mae un cyngor wedi dweud bod cau llyfrgelloedd a chanolfannau dydd yn bosib'.

拢56尘

Ddydd Llun cyhoeddodd Rhondda Cynon Taf eu cynlluniau ar gyfer sut maen nhw'n bwriadu arbed 拢56尘 dros y pedair blwyddyn nesaf.

Mae'r rhain yn cynnwys dechrau addysg llawn amser plant flwyddyn yn hwyrach.

Mae cyngor arall wedi rhybuddio bod y toriadau'n golygu bod "cannoedd o swyddi yn y fantol".

Yn eu hadroddiad i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad mae CLlLC yn dweud: "Er bod llywodraeth leol yn ymwybodol o'r sefyllfa mewn cysylltiad 芒 chyllideb Llywodraeth Cymru, y tebygolrwydd yw nad yw'n barod am y toriadau digynsail ar gyllidebau lleol fydd yn digwydd yn 2014-15."

Dywedodd y mudiad fod maint y toriadau yn fwy na'r hyn roedd cynghorau wedi cynllunio ar eu cyfer.

Mae awduron yr adroddiad yn trafod ei gynnwys ym Mhwyllgor Cyllid y Cynulliad ddydd Iau.

'Anghyfrifol'

Ar y Post Cyntaf ddydd Mercher dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd ac aelod o'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, Dyfed Edwards, fod rhai cynghorau wedi cynllunio yn well nac eraill.

"Yr unig beth y galla' ei dybio ydi bod cynghorau wedi dal allan hyd y diwedd rhag ofn bod 'na newid gan y gweinidog, ond mae hynny wedi bod yn ofer, yn amlwg," meddai.

Dywedodd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn cynllunio ar gyfer y toriadau ers peth amser ac wedi bod yn ystyried eu cyllidebau yn nhermau tair blynedd ar y tro, ond nad oedd yn credu i bob cyngor gynllunio mor fanwl.

"Fyddwn i ddim yn argymell y ffordd yna o weithredu, ond mae hi i fyny i bawb yn lleol i benderfynu sut maen nhw'n gweld pethau.

"Dyna pam rydym ni yng Ngwynedd wedi bod yn cynllunio ers rhai blynyddoedd ac wedi cael rhaglenni yn eu lle i sicrhau ein bod ni'n ceisio bod yn ddoeth a gweithredu mewn ffordd ragweithiol."

Ddim yn ddigon

Er y gallai trethi cyngor godi oherwydd y toriadau, meddai, ni fyddai hynny'n ddigon i ddatrys y broblem.

"Mae 'na rai cynghorau wedi glynu at 0% o godiad treth cyngor flwyddyn neu ddwy yn 么l ... roedden ni ar y pryd wedi galw hynny'n anghyfrifol.

"Y broblem gyda'r dreth yw nad ydy hi'n mynd i ddod 芒 ni allan o'r picl.

"Fe all gyfrannu ... fel rhan o becyn, a rhaid pwyso a mesur wedyn yngl欧n 芒 throsglwyddo baich i'r trethdalwr."