麻豆官网首页入口

Gweinidog yn cyhoeddi toriadau

  • Cyhoeddwyd
Lesley Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod wedi rhybuddio awdurdodau lleol fod y toriadau ar y ffordd

Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths wedi cyhoeddi manylion faint yn union y bydd pob cyngor yn ei dderbyn gan Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15.

Mae pob cyngor yn wynebu toriadau o rhwng 1.2% a 4.6%.

Y rhai sy'n wynebu'r toriad mwya' yw Ceredigion, Powys a Sir Ddinbych, 4.6% yr un.

Mae Bro Morgannwg yn wynebu 4.5% o doriad, Sir Fynwy 4.4%, Gwynedd 4.1% ac Ynys M么n 4%.

Yr un sy'n cael y toriad lleia' yw Casnewydd, 1.2%.

Mae rhestr o faint o arian bydd bob cyngor yn ei dderbyn yma.

'Wedi rhybuddio'

Dywedodd Ms Griffiths: "Rwyf wedi bod yn gwbl glir yngl欧n 芒 realiti'r sefyllfa ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol ac rwyf wedi rhybuddio yngl欧n 芒'r gostyngiadau tebygol i'r gyllideb.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn llywodraeth leol rhag grym y toriadau yn ystod y tair blynedd diwethaf er mwyn rhoi cyfle i'r awdurdodau baratoi ar gyfer y trawsnewid.

"Roedd angen gwneud hynny er mwyn cynnal gwasanaethau lleol hanfodol, ac osgoi rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar aelwydydd sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd."

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Janet Finch-Saunders: "Mae Llafur, y cenedlaetholwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno setliad heriol iawn ar gyfer awdurdodau lleol ac fe fydd hyn yn golygu penderfyniadau anodd a chraffu fforensig ar wariant gan y cynghorau.

"Yr her ar gyfer awdurdodau lleol yw osgoi'r opsiynau hawdd o gynyddu biliau treth cyngor teuluoedd sy'n gweithio'n galed - a thorri gwasanaethau'r rheng flaen.

"Mae angen i gynghorau Cymru fynd drwy eu cyllidebau fesul llinell a chael gwared ar wariant gwastraffus, gwella eu cyfradd casglu trethi a darparu gwasanaethau'n fwy creadigol."

拢182尘

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'r arian mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn ar gyfer 2014-15 拢182 miliwn yn llai na'r flwyddyn bresennol.

Roedd hyn oherwydd penderfyniad i wario mwy ar iechyd dros y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black: "Hon yw'r flwyddyn gyntaf i gynghorau Cymru beidio 芒 chael eu hamddiffyn rhag yr hinsawdd economaidd anodd.

"Er hynny, maen nhw wedi bod yn ymwybodol ers peth amser fod y toriadau hyn ar y ffordd ac maen nhw wedi cael cyfle i baratoi amdanyn nhw.

"Dyw hynny ddim yn gwneud y broses o wneud penderfyniadau yn haws ond mae yn golygu bod swyddogion a chynghorwyr wedi cael amser i feddwl am sut i wneud arbedion."

Eisoes mae rhai cynghorau wedi crybwyll eu bod yn ystyried cael gwared 芒 rai o'r gwasanaethau hyn.

Er enghraifft, mae Rhondda Cynon Taf wedi awgrymu y bydd rhaid iddyn nhw gau hanner eu llyfrgelloedd ac mae Cyngor Caerdydd wedi awgrymu y bydden nhw'n rhoi'r gorau i gyllido cyrff sy'n ymwneud 芒'r celfyddydau.

9%

Bydd yr arian sydd yn cael ei wario ar lywodraeth leol yn gostwng o 拢4.648 biliwn y flwyddyn hon i 拢4.466 biliwn y flwyddyn nesaf, toriad o 3.91%.

Ond mae hwn yn doriad o 5.81% o gofio effeithiau chwyddiant.

Mae hyn yn golygu y bydd cyllidebau cynghorau 9% yn llai mewn termau real rhwng hyd at 2015-16.