Addysg i oedolion: Pryder am doriadau

Disgrifiad o'r llun, Mae yna bryder am effaith toriadau ar addysg oedolion yng Nghymru

Mae undebau ac elusen wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i dorri cyllidebau addysg gydol oes.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig toriadau o 拢44.9m yn y sector addysg bellach y flwyddyn nesa' a 拢42.5m arall yn ystod y flwyddyn ganlynol.

Dywedodd undeb yr ATL y byddai'r toriadau yn "ddinistriol".

Mae'r gyfran o'r gyllideb sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer darpariaeth pobl ifanc rhwng 16-19 oed wedi ei diogelu.

Felly myfyrwyr dros 19 oed fydd yn cael eu heffeithio yn bennaf.

Yn benodol, bydd 拢37m yn llai ar gyfer cyllideb dysgu 么l-19 oed y flwyddyn nesa', hynny yw gostyngiad o 23%.

Mae gweinidogion wedi cydnabod y gallai toriadau amharu ar nifer o oedolion sy'n awyddus i ennill rhagor o gymwysterau.

Yn 么l y llywodraeth, mae yna dystiolaeth sy'n awgrymu y bydd yna effaith anghymesur ar fenywod, gan eu bod yn fwy tebygol o fod yn ddysgwyr, a phobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig.

'Negyddol'

Mae'r llywodraeth, yn eu hasesiad effaith o'r gyllideb ddrafft, wedi dweud: "... bydd effeithiau negyddol ar ddysgwyr sy'n 19 oed ac yn h欧n, yn enwedig yn achos Sgiliau Oedolion a dysgu cymunedol ...

"Fe allai llai o ddarpariaeth ar gyfer oedolion olygu y bydd hi'n fwy anodd i'r rhai di-waith ailhyfforddi neu ddysgu sgiliau newydd ..."

Dywedodd Dr Phil Dixon o undeb yr ATL: "Mae'r cyrsiau hyn yn helpu'r di-waith tymor hir, pobl nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

"Os ydyn nhw'n diflannu bydd hyn yn effeithio'n fawr ar ysbryd pobol yn y sector."

Dywedodd undeb yr UCU y byddai colegau'n ei chael hi'n anodd darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen yng Nghymru pe bai'r toriadau'n cael eu gweithredu.

"Mae'r sector addysg bellach yn un allweddol na ddylid ei hanwybyddu," meddai llefarydd ar ran yr UCU.

'Cynyddu'

Dywedodd Essex Havard o'r elusen NIACE Dysgu Cymru: "Ar adeg anodd yn economaidd dylid cadw lefel ariannu neu gynyddu'r gyllideb am sawl rheswm.

"Ar hyn o bryd mae llawer o ymchwil am fod yn ddysgwr gweithredol ac iach, yn enwedig ym maes iechyd meddwl.

"Gall addysg gydol oes helpu pobol sy' wedi cael sioc yn eu bywydau.

"Dyma'r materion y dylen ni eu trafod 芒'r llywodraeth."

Wrth ymateb i feirniadaeth o'r toriadau, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi bod yn agored ynghylch realiti'r heriau ariannol sy'n cael eu hwynebu.

"Ond wrth i ni weithio drwy'r amseroedd anodd hyn, mae'n bwysicach fyth ein bod ni'n canolbwyntio nid yn unig ar yr adnoddau sydd ar gael ond sut rydym ni'n eu defnyddio a'r hyn rydym ni'n ei gyflawni," meddai llefarydd.

"Fe fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r sector 么l-16 i werthuso'r dewisiadau sydd ar gael er mwyn lliniaru effaith unrhyw ostyngiad ar ddysgu."