Cais i alw cynllun tai i mewn

Disgrifiad o'r llun, Mae'r datblygiad arfaethedig wedi rhannu barn ar yr ynys

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno llythyr ar y cyd gyda mudiad Ymgyrch Achub Penrhos i alw ar Lywodraeth Cymru i "alw i mewn" penderfyniad Cyngor Sir Ynys M么n i ganiat谩u datblygiad cwmni Land and Lakes.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth pwyllgor cynllunio'r awdurdod wyrdroi eu penderfyniad gwreiddiol i wrthod y datblygiad i godi cannoedd o dai ar yr ynys.

Mae'r ddau fudiad wedi ysgrifennu at y gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am gynllunio, Carl Sargeant, yn gofyn iddo weithredu, gan ddweud bod y datblygiad yn mynd yn groes i nifer o bolis茂au cynllunio Llywodraeth Cymru.

Torri rheolau?

Sail gwrthwynebiad Cymdeithas yr Iaith yw nad oes asesiad wedi ei gynnal o effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg, tra bod Ymgyrch Achub Penrhos yn dweud bod y penderfyniad yn groes i reolau amgylcheddol.

Dywedodd Osian Jones, o Gymdeithas yr Iaith: "Mae llawer iawn o gwestiynau heb eu hateb am y cais cynllunio dadleuol hwn.

"Yn gyntaf rydym yn synnu sut y gall cyngor sir, sydd yn datgan eu bod o ddifrif am ddiogelu'r Gymraeg fel iaith hyfyw, yn gallu caniat谩u i ddatblygiad fel hwn fynd yn ei flaen, heb fynnu bod adroddiad asesiad iaith annibynnol wedi ei gwblhau."

"Rydym yn bryderus iawn bod Cyngor Sir Ynys M么n yn gallu gweithredu yn y fath fodd, yn arbennig o gofio canlyniadau siomedig y cyfrifiad yn y sir, lle gwelwyd cwymp sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ar yr ynys.

"Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol gan y cynghorwyr hynny sydd yn aelodau o'r pwyllgor cynllunio am faterion socio-ieithyddol, a sut bod rhaid cynllunio'n fanwl er mwyn creu economi sy'n diogelu'r Gymraeg ac yn creu economi sy'n ateb gofynion lleol, yn hytrach na llenwi pocedi cwmn茂au mawr o du allan i Gymru."

Amgylchedd naturiol

Ychwanegodd Hilary Patterson-Jones, o Ymgyrch Achub Penrhos: "Wrth ganiat谩u cais cynllunio Land & Lakes, mae Cyngor Sir Ynys M么n wedi torri 11 o bolis茂au cynllunio, sefyllfa sy'n anghrediniol o gofio problemau diweddar y Cyngor.

"Mae polis茂au cynllunio cenedlaethol wedi eu gosod am resymau pendant, wedi ymgynghoriad eang. Ni fedra'i gredu na welodd aelodau'r pwyllgor cynllunio'r problemau 芒'r cwestiynau difrifol fydd yn sicr o godi wrth ymchwilio ymhellach i'r mater."

"Mae caniat谩u datblygiad mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol yn torri un o gonglfeini ein system gynllunio sef bod rhaid i'r drefn gynllunio ddiogelu ein hamgylchedd naturiol.

"Mae caniat谩u datblygiad Land & Lakes yn mynd yn hollol groes i hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn ceisiadau i alw i mewn cais Land and Lakes Ltd ar gyfer pentre' hamdden yng Nghaergybi ac mae rhai nawr yn cael eu hystyried.

"Rydym yn deall y bydd y cais hefyd yn cael ei nodi ar gyfer ystyriaeth gan Weinidogion Cymru o dan y Cyfarwyddyd Hysbysu 2012.

"Bydd penderfyniad ar y ceisiadau'n cael ei wneud cyn gynted 芒 phosib."