麻豆官网首页入口

Land & Lakes: Galw am dryloywder

  • Cyhoeddwyd
Ynys Mon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r datblygiad arfaethedig wedi rhannu barn ar yr ynys

Mae aelod o bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ynys M么n wedi galw ar yr awdurdod i fod yn fwy agored a thryloyw yn dilyn penderfyniad i ganiat谩u datblygiad dadleuol cwmni Land & Lakes.

Mae'r Cynghorydd Victor Hughes yn credu y gallai materion a drafodwyd mewn cyfarfod - a gafodd ei ddisgrifio gan yr awdurdod fel un "anffurfiol" - fod wedi cael effaith ar y penderfyniad.

Fe gafodd y cynllun ei wrthod gan y pwyllgor yn wreiddiol cyn i'r un pwyllgor wyrdroi'r penderfyniad mewn ail bleidlais fis yn ddiweddarach.

Fe gafodd aelodau'r pwyllgor cynllunio wybod bod y datblygiad i godi cannoedd o fythynnod gwyliau ger Caergybi yn darparu "cartrefi i weithwyr" ar gynllun niwclear arfaethedig Wylfa Newydd.

Ond mewn cyfarfod gyda rhai cynghorwyr dywedodd y cwmni sydd y tu 么l i ddatblygiad Wylfa nad oedd cynlluniau pendant ganddynt i gysylltu gyda datblygiad Land & Lakes, a'u bod mewn gwirionedd yn ystyried sawl dewis i gartrefu'r gweithlu.

'Un dewis posib'

Mae Mr Hughes yn cyfadde' bod aelodau'r pwyllgor cynllunio yn gwybod nad oedd cytundeb ffurfiol yn bodoli rhwng Horizon a Land & Lakes cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniad, ond mae'n teimlo y dylai'r wybodaeth yna fod wedi cael ei throsglwyddo'n bersonol.

Mae'n honni eu bod wedi cael ar ddeall gan Land & Lakes eu bod nhw a Horizon yn agos at ei gilydd cyn y bleidlais, ond dywedodd Horizon mewn datganiad i'r 麻豆官网首页入口:

"Mae datblygiad Land & Lakes yn un dewis posib i gartrefu peth o'n gweithlu ar gyfer gorsaf niwclear newydd yn Wylfa, ond does dim cytundeb wedi ei arwyddo gyda'r datblygwyr ac rydym yn parhau i ystyried nifer o ddewisiadau.

"Rydym wedi cyfathrebu drwy'r rhaglen Ynys Ynni ac yn uniongyrchol er mwyn i ni ddeall yn well beth yw eu cynlluniau, a deall sut y gallai'r cynlluniau fod yn rhan o'n cynlluniau ni."

'Siomedig iawn'

Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes: "Rwyf wedi fy synnu. Yr argraff a roddwyd i ni yn y pwyllgor cynllunio oedd bod y ddau gwmni yma law yn llaw, ac mae'n siomedig iawn clywed hyn ar 么l i ni wneud y penderfyniad.

"Yn sicr fe ddylai fod wedi digwydd cyn i ni gyfarfod oherwydd mae'r wybodaeth yma'n hanfodol ac fe ddylen ni fod wedi clywed safbwynt Horizon ymhell cyn hyn."

Roedd y Cynghorydd Aled Morris-Jones, sy'n aelod o gabinet y cyngor, yn bresennol yn y cyfarfod gyda Horizon.

Doedd dim cofnodion o'r cyfarfod ar gael am ei fod yn un anffurfiol, meddai, ond ychwanegodd:

"Yr unig beth fyddwn i'n ei ddweud yw bod Horizon wedi gwneud eu safbwynt yn glir cyn cyfarfod y pwyllgor cynllunio, ac roedd llythyr gan gwmni Horizon yn y pecyn gwybodaeth i'r aelodau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol