麻豆官网首页入口

Llwyddiant Y Ffindir

  • Cyhoeddwyd
Sanau Ffindir
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Arwyn wedi synnu i weld y plant yn cerdded rownd yr ysgol yn nhraed eu sanau

Dros y degawd diwethaf mae llywodraethau wedi heidio i'r Ffindir i weld beth y gallan nhw ei ddysgu o'u system addysg.

Mi es i draw i geisio darganfod pam gyda Chris Parry, Pennaeth Mathemateg yn Ysgol Friars ym Mangor.

Fel un sydd wedi bod yn athro ers bron i 20 mlynedd yng Nghymru, roedd yntau'n awyddus i weld beth oedd cyfrinach y Ffindir - pam eu bod nhw'n gyson ymhlith yr uchaf o ran perfformiad eu disgyblion yn y tablau addysg rhyngwladol Pisa?

Wrth i ni gyrraedd yr ysgol oedd wedi cytuno i'n croesawu ni am wythnos, roedd un peth yn fy nharo i yn syth, mor anffurfiol oedd yr awyrgylch.

Efallai bod hynny yn haws mewn ysgolion sydd gymaint yn llai na'r hyn sydd gennym ni yn y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru. 500 o blant oedd yn ysgol Hameenkylan yn nhref Vantaa ryw 20 milltir i'r gogledd o Helsinki.

Mae'r ysgolion yn llai yn rhannol oherwydd bod eu strwythurau yn wahanol i'r rhai Cymreig. Mae ganddyn nhw ysgolion cynradd ond dydy plant ddim yn dechrau mynd i'r ysgol nes eu bod nhw'n saith oed.

Wedyn pan maen nhw'n 12 mae'r plant yn mynd i ysgol ganol am dair blynedd. Yn 15 oed, maen nhw'n cael eu rhannu i rai fydd yn parhau ar gyrsiau academaidd ac eraill (tua 40%) fydd yn dilyn cyrsiau galwedigaethol.

Ysgol ganol ydy Hameenkylan.

Wrth fynd drwy'r drysau mi sylwes i nad oedd y mwyafrif o'r plant yn gwisgo esgidiau y tu mewn i'r ysgol. Enghraifft arall o'r natur anffurfiol oedd eu bod nhw'n annerch athrawon gan ddefnyddio eu henwau cyntaf - nid "Mr Jones" neu "Syr" fel yng Nghymru.

'Adlewyrchu natur y gymdeithas'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ei ddisgyblion yn galw Mr Majasaari yn Darth Vader

Mae pennaeth yr ysgol, Pasi Majasaari, yn ddyn mawr gyda llais cryf, dwfn.

Wrth i ni ddechrau sgwrsio daeth hi'n amlwg iawn pam bod y disgyblion hefyd yn ei alw yn "Darth Vader".

Eglurodd mai adlewyrchu natur fwy anffurfiol y gymdeithas y mae'r ysgolion. Mi ychwanegodd ei fod o'r farn dod y plant hefyd yn fwy tebygol o fwynhau dod i'r ysgol os ydyn nhw'n teimlo yn fwy cartrefol yno.

Ac wrth i mi arsylwi fy ngwers gyntaf, mi welais yn union beth oedd pwynt Pasi. Nid cloch ond cerddoriaeth o ddewis y disgyblion sy'n dechrau a gorffen pob gwers. Ac wrth i'r disgyblion gyrraedd maen nhw'n amlwg yn awyddus i ddechrau.

Mi sylwodd Chris yn syth fod yr adnoddau oedd yn y dosbarth yn fwy modern na'r oedd ar gael iddo, roedd taflunydd ymhob dosbarth yn Ysgol Hameenkylan. Dim ond un ymhob adran sydd yna yn ei ysgol ef.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen i bobl gael ffydd yng ngallu athrawon yn 么l Ms Kiuru

Ond mi sylwodd Chris ar rywbeth arall diddorol. Roedd safon y dysgu yn uchel. Mae gan bob athro neu athrawes radd meistr yn y pwnc maen nhw'n ei ddysgu. Ond roedd arddull y dysgu a strwythur y wers yn debyg i'r hyn oedd Chris yn ei ddysgu yn yr 1980au. "Anfoddhaol" fyddai dyfarniad Estyn o dechnegau o'r fath, meddai.

Fyddai hynny ddim yn digwydd ymhob dosbarth, wrth gwrs. Does dim cwricwlwm caeth yn y Ffindir. Wrth gyfweld 芒 Gweinidog Addysg y wlad, Krista Kiuru, dywedodd hi fod angen cael ffydd yn yr athrawon - mai ganddyn nhw, nid y gwleidyddion, oedd y profiad a'r gallu i wybod sut i ddysgu'r plant.

Mi ddywedodd hi rywbeth arall wnaeth fy nharo i. Ers dechrau'r 1970au, ychydig iawn sydd wedi newid yn y system addysg yn Y Ffindir. Wedi degawd a mwy o drafod, mi gytunwyd ar y drefn sydd ohoni. "Mae gwledydd eraill," meddai, "yn dioddef gan eu bod nhw'n newid polisi a threfn addysg ar 么l pob etholiad. Tydi hynny ddim yn digwydd yma."

Barn debyg oedd gan Chrisina Volmersy, un o benaethiaid Bwrdd Addysg Y Ffindir. Pan ofynnais iddi sut oedden nhw yn gallu dilyn cynnydd plant yn yr ysgol heb system o arolygu ysgolion, a heb unrhyw brofion allanol hyd nes y bydd y disgyblion yn 19 oed, atebodd: "Does gynnon ni ddim diddordeb mewn tracio a monitro disgyblion. Yr unig beth sydd o ddiddordeb i ni," meddai, "ydy gwybod yn fras fod popeth yn iawn".

Athrawon o 'safon uchel'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid un peth penodol yw cyfrinach y Ffindir, yn 么l Chris Parry, ond bod nifer o elfennau yn atgyfnerthu ei gilydd

Yn yr academi hyfforddi athrawon mi eglurodd y pennaeth Markku Hannula fod ffydd y llywodraeth yn deillio yn rhannol o safon uchel yr athrawon. Dim ond un o bob 10 ymgeisydd sy'n llwyddo i fynd ar y cwrs dysgu.

Yn ogystal 芒 meddu ar radd meistr yn eu dewis bwnc, mae'r athrawon yn astudio am dair blynedd ychwanegol tra'n derbyn 拢300 y mis gan y llywodraeth.

Felly, yn amlwg, mae yna nodweddion unigryw i system addysg y wlad. Ond dwi'n meddwl bod yna elfennau eraill sy'n fwy arwyddocaol. Ychydig iawn o dlodi amlwg welwch chi yn Y Ffindir. Mae hi'n gymdeithas fwy cyfartal.

Mi fyddai unrhyw un sydd wedi dilyn areithiau Gweinidog Addysg Cymru Huw Lewis yn ddiweddar yn gwybod bod y berthynas ystyfnig rhwng tlodi a diffyg cyrhaeddiad yn yr ysgol yn un o nodweddion mwyaf anffodus system addysg Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Be allai Huw Lewis ei ddysgu o system y Ffindir?

Mae rhieni'r Ffindir hefyd yn derbyn ac yn mynnu mwy o wybodaeth am addysg eu plant. Na, does yna ddim arolygon nac arholiadau allanol, ond ar ddiwedd pob gwers, mae'r athrawon yn treulio 10 munud yn anfon negeseuon at rieni i nodi unrhyw broblemau neu rinweddau gan eu plant yn ystod y wers.

Ac mi roedd y disgyblion yn amlwg yn ffynnu. Wrth i mi eistedd yng nghefn gwers mathemateg, roedd dwy ferch o fy mlaen yn sibrwd yn gyson. Dim ond ar ddiwedd y wers wnes i sylwi nad rhannu cyfrinachau oedden nhw ond, yn hytrach, wedi cwblhau eu gwaith ac wedi symud ymlaen i'r dasg nesaf.

Does dim "setiau" yn ysgolion Y Ffindir, mae'r disgyblion mwyaf galluog yn rhannu dosbarth gyda'r rhai sy'n cael trafferth. Y syniad, yn ol Pasi, ydy bod y disgyblion yn ymestyn ei gilydd.

Wrth i ni'n dau drafod hynny, dywedodd Chris na fyddai'n bosib gwneud hynny n么l adref; y byddai'n ormod o her cymysgu disgyblion oedd 芒 galluoedd gwahanol.

Ar ddiwedd ein hwythnos yn Hameenkylan mi roddodd Chris ei farn.

Does dim "x-factor" meddai. Yn hytrach mae'n rhaid edrych ar lwyddiant addysg Y Ffindir fel jig-so. Mae nifer o elfennau, y mwyafrif yn gymdeithasol, sy'n ddarnau o'r jig-so. Allwch chi ddim dewis ambell ddarn, eu trosglwyddo i Gymru, a disgwyl gweld newidiadau. Mi fyddai'n rhaid trosglwyddo'r jig-so cyfan i drosglwyddo'u llwyddiant.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol