Tlodi plant: Llywodraeth wedi 'ymrwymo'

Disgrifiad o'r llun, Mae adroddiad y llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yngl欧n 芒'r targedau

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i ddweud eu bod nhw wedi "ymrwymo" i gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020 er bod y data'n awgrymu y bydd hyn yn anodd i'w gyflawni.

Un o'r mesuryddion mae'r llywodraeth yn ddefnyddio yw faint o blant sy'n byw mewn t欧 lle nad oes neb yn gweithio - er fod y ganran (17.7%) i lawr ers iddo fod uchaf yn 2009 (20%), mae dal yn uwch na'r ffigwr ar gyfer 2006 (17%).

Mae'r patrwm 'run fath ar draws y DU wrth i'r ffigyrau wella ers yr argyfwng ariannol a ddechreuodd yn 2008.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhyddhau'r data mewn , yn rhan o'u hymrwymiad i ddiweddaru'r wybodaeth am dlodi plant bob tair mlynedd ers lansio'r Strategaeth Tlodi Plant yn 2011.

Addewid

Fe addawodd y Blaid Lafur na fyddai tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020 yn eu hymgyrch etholiadol yn 2006.

Ers hynnu mae a'r comisiynydd plant wedi codi amheuon yngl欧n ag os yw hynny'n uchelgais realistig.

Dim ond un o'r chwech dangosydd mae'r llywodraeth yn ei ddefnyddio er mwyn mesur unrhyw gynnydd sy'n dangos gwelliant parhaus ers nifer o flynyddoedd, sef nifer yr oedolion sydd heb gymwysterau, sydd wedi gostwng pob blwyddyn ers 2006.

Mae un ohonynt - sef faint o blant sy'n derbyn gofal - wedi gwaethygu'n sylweddol ers 2006 ac mae'r gyfradd yng Nghymru'n waeth nag unrhyw ardal o Loegr.

'Penderfynol'

Ond mae'r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Vaughan Gething yn mynnu bod y targed yn un cyraeddadwy: "Er gwaethaf y sefyllfa ariannol anodd, rydym mor benderfynol ag erioed o gyrraedd ein targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae'r targed yn canolbwyntio ein hymdrechion ar wneud gwahaniaeth gwirioneddol a lleihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.

"Dros y tair blynedd ddiwethaf rydym wedi gwneud cynnydd pendant - o leihau nifer y plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith i ostwng canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau.

"Ond mae heriau mawr o'n blaenau o hyd. Bydd yn hanfodol cau'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol a chael gwared ar y cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad. Drwy godi lefelau cyrhaeddiad byddwn yn cynyddu'r potensial i bobl ifanc ac oedolion symud i swyddi 芒 chyflogau da.

"Dylai hyn helpu i leihau'r lefelau o dlodi ymysg y rhai sydd mewn gwaith - mae'r tlodi hwn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf."