麻豆官网首页入口

Cymru yn disgwyl canlyniadau Pisa yn ddiweddarach

  • Cyhoeddwyd
Exam hallFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim disgwyl cynnydd mawr yn y canlyniadau pisa yng Nghymru y tro yma

Mi fydd canlyniadau profion Pisa yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach.

Mae'r profion yn mesur safonau mathemateg, gwyddoniaeth a sgiliau darllen disgyblion 15 oed.

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, eisoes wedi rhybuddio nad yw'n disgwyl i Gymru wneud llawer yn well nag y gwnaeth y tro diwethaf.

Yn 2010 dywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, fod y canlyniadau yn "ddychrynllyd".

Mae 500,000 o bobl ifanc yn gwneud y profion mewn tua 70 o wledydd ar draws y byd.

Bedair blynedd yn 么l roedd Cymru yn y 40fed safle mewn mathemateg, 38ain mewn darllen a 30ain yn y maes gwyddoniaeth.

Roedd y canlyniadau yn waeth na'r hyn oedden nhw yn 2007 ac yn dangos bod Cymru ar ei h么l hi o'i gymharu 芒 gwledydd eraill Prydain.

Fe gyflwynwyd nifer o newidiadau yn sgil y canlyniadau.

Nawr mae plant 7 oed yn cael eu profi ac mae system fandio wedi ei chyflwyno sydd yn mesur perfformiad ysgolion.

Mae yna fframwaith newydd hefyd i athrawon ei ddilyn yn y dosbarth.