Mesur Cynllunio: 'Colli cyfle'

Disgrifiad o'r llun, Mae Ms Huws wedi dweud droeon bod angen rhoi mwy o sylw i'r iaith fel rhan o'r broses ddeddfu

Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Meri Huws wedi dweud bod y llywodraeth wedi "colli cyfle" i roi safle canolog i'r iaith fel rhan o'r Mesur Cynllunio.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i drin yr iaith yn gyfartal drwy ei rhoi ar wyneb mesurau fel yr un cynllunio.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei roi i'r iaith yn y mesur, gan ychwanegu bod anghenion lleol yn cael eu hanwybyddu.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth mai mesur drafft oedd y Mesur Cynllunio a bod cyfle i bobl fod yn rhan o'r ymgynghoriad sy'n digwydd ar hyn o bryd.

'Colli cyfle'

Dywedodd Ms Huws fod angen i'r llywodraeth ddatblygu "ffordd drwyadl Gymreig" o ddrafftio deddfau.

"Dwi'n credu ein bod ni'n colli cyfle fan hyn - ry'n ni'n wlad ddwyieithog sydd 芒 dwy iaith a statws swyddogol iddyn nhw ac fe ddylai hynny gael ei adlewyrchu wedyn yn ein deddfwriaeth ni.

"Ddylen ni fod yn ddigon hyderus i ddweud: 'Mae yna ffordd Gymraeg a Chymreig o ddeddfu' ac mae'n rhaid i ni feithrin y gallu 'na.

"Felly gyda darn o ddeddfwriaeth fel y ddeddfwriaeth ar gynllunio bydden ni'n disgwyl gweld cyfeiriad at y Gymraeg.

"Os oes 'na broblem yngl欧n 芒 gwneud hynny felly gadewch i ni gael trafodaeth - mae yna ddigon o gyfreithwyr, digon o farnwyr yng Nghymru ddylai fod yn gallu cyfrannu at y drafodaeth yna."

Bwriad y mesur drafft cynllunio yw symleiddio'r system er mwyn hybu twf economaidd.

Yn ogystal 芒 hyn bydd y llywodraeth yn cael yr hawl i ddyfarnu os yw prosiectau o "bwys cenedlaethol" yn ceisio am ganiat芒d cynllunio.

Atebion

Dywedodd y mudiad iaith eu bod yn bwriadu llunio mesur eu hunain er mwyn dangos i'r llywodraeth sut y dylai'r ddeddfwriaeth edrych.

Maen nhw wedi honni bod ymgynghoriad y llywodraeth - Y Gynhadledd Fawr - wedi casglu mai poblogaethau'n symud oedd un o'r heriau mwyaf yn wynebu'r iaith ac mai polis茂au tai a chynllunio fyddai'r atebion gorau.

Dywedodd eu cadeirydd, Robin Farrar: "Er mwyn i'r Gymraeg ffynnu, mae angen polis茂au cadarn ac arweiniad clir mewn sawl maes.

"Mae polisi cynllunio yn allweddol bwysig oherwydd ei fod yn siapio ein cymunedau ac yn dylanwadu ar batrymau mewnfudo ac allfudo - patrymau sy'n golygu ein bod yn colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn.

"Er mwyn cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg a chynnal cymunedau Cymraeg, mae angen newid y system gynllunio bresennol yn llwyr.

"Mae bil cynllunio drafft y llywodraeth yn mynd i'r cyfeiriad anghywir - dim ystyriaeth i'r Gymraeg, diffyg democratiaeth, dim pwyslais ar anghenion lleol.

"Fe fyddai'n gwthio'n bellach ymlaen gyda strwythurau di-wyneb sy'n cryfhau gafael swyddogion anetholedig ar y system gynllunio.

"Dyna pam ein bod ni am gyhoeddi ein bil cynllunio ein hunain - bydd yn dangos yn glir y cyfle sydd gan Lywodraeth Cymru i chwyldroi'r system. Allwn ni ddim colli'r cyfle yna."

'Gwlad ddwyieithog'

Mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio'r feirniadaeth, gan ddweud bod cyfle i'r rheiny 芒 diddordeb yn yr iaith ymateb i'r ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal.

"Mae pob un o bolis茂au a mentrau'r llywodraeth yn adlewyrchu'r ffaith bod Cymru'n wlad ddwyieithog," meddai llefarydd.

"Yn yr hydref fe gyhoeddon ni ganllawiau newydd yngl欧n 芒 sut dylai'r iaith Gymraeg gael ei defnyddio o fewn y system gynllunio, yn enwedig mewn cysylltiad 芒 phan mae cynlluniau datblygu lleol yn cael eu paratoi.

"Mae cynlluniau datblygu lleol yn darparu fforwm ddemocrataidd ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd 芒 diddordeb, gan gynnwys y comisiynydd a'r gymdeithas, i ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio'r dyfodol.

"Mae cynigion yn y Mesur Drafft Cynllunio (Cymru) yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus ac fe fyddwn ni'n ystyried yr ymatebion yn y man."