麻豆官网首页入口

Meri Huws yn poeni y bydd safonau iaith yn 'creu dryswch'

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meri Huws wedi cyflwyno ei hadroddiad blynyddol cynta'

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhybuddio y bydd "cyfleoedd yn cael eu colli'" os bydd safonau iaith ond yn cael eu cyflwyno i rai sectorau ar y cychwyn.

Wrth gyflwyno ei hadroddiad blynyddol cynta' ers dechrau ei swydd fis Ebrill diwetha', mae Meri Huws wedi dweud y byddai cynnwys pob sector yn y safonau yn ei gwneud yn haws i "gyd-gynllunio, gyd-ddysgu ac addasu".

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni y byddai Safonau'r Iaith Gymraeg yn cael eu cyflwyno ar gyfer awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru erbyn diwedd 2014, ac y bydden nhw'n ystyried cyflwyno safonau i sefydliadau eraill yn ddiweddarach.

Yn lansiad yr adroddiad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun, dywedodd Meri Huws:

"Mae cyfleoedd yn mynd i gael eu colli trwy symud yn sectorol," meddai, "ac fe allai greu dryswch."

Dywedodd ei bod wedi gobeithio am "safonau craidd i bawb".

'Deddfwriaeth ddim yn ddigon'

"Be' ddylai'r safonau ei wneud yw sicrhau gwell cysondeb ar draws Cymru.

"Hanfod y safonau, yn fy marn i, yw sicrhau i'r defnyddwyr be' allen nhw ei ddisgwyl o ran darpariaeth iaith."

Yn 么l Ms Huws, a ddechreuodd yn ei swydd fis Ebrill y llynedd, mae'n rhaid "prif-ffrydio'r iaith Gymraeg i bob un penderfyniad polisi, a dyw hynny ddim yn weladwy ar hyn o bryd."

"Dyw darn o ddeddfwriaeth ddim yn ddigon yn ei hun - os nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu ym mhob agwedd o fywyd yng Nghymru, os na fydd yn weladwy mewn polisiau, fyddan ni wedi methu."

Roedd hi'n cydnabod ei bod hi wedi bod yn flwyddyn gynta' "heriol" ond mynnodd bod y broses o drosglwyddo o Fwrdd yr Iaith Gymraeg i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg "ddim yn shambls o gwbl".

Gwrthod 'mewn ffordd gyhoeddus'

Pan ofynwyd iddi yngl欧n 芒 phenderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio 芒 derbyn ei safonau drafft ym mis Chwefror eleni, dywedodd fod hynny wedi bod yn "brofiad anodd".

"Nid cael eu gwrthod wnaethon nhw ond peidio 芒 chael eu derbyn - ac fe wnaethpwyd hynny mewn ffordd gyhoeddus iawn.

"Dwi ddim yn gwybod be' a gyflawnwyd o wneud hynny.

"Ond mae angen symud ymlaen nawr, cael y safonau a'u gweithredu nhw," ychwanegodd.

'Cyfrifoldeb'

Mynnodd fod y penderfyniad i ddarparu safonau drafft wedi bod yn un cywir.

"Ond roeddwn i'n credu fod 'na gyfrifoldeb moesol, dim statudol, fel Comisiynydd i wneud rhywfaint o waith i hwyluso'r drafodaeth.

"Dwi'n falch iawn o'r darn o waith wnaethon ni ar safonau. Mae wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o ran y safonau ...

"Wrth i'r swyddogion ddrafftio'r safonau statudol, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n eu hystyried."

Gellir gweld rhai o brif bwyntiau adroddiad blynyddol cynta' Comisiynydd y Gymraeg yma.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol