Dim cludiant ysgol i blant tair oed yn Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad o'r llun, Dim ond plant llawn amser fydd yn cael trafnidiaeth i'r ysgol o fis Medi ymlaen
  • Awdur, Anna Glyn
  • Swydd, Newyddion Arlein

Mae undeb athrawon UCAC wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf i beidio cynnig trafnidiaeth i ddisgyblion fydd yn mynd i'r ysgol yn rhan amser o fis Medi ymlaen.

Mae'r undeb yn cwestiynu a ydy hyn yn cyd-fynd efo gofynion Llywodraeth Cymru ar gynghorau i "hybu a hwyluso mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg".

Yn 么l yr undeb, mi fydd rhieni r诺an yn anfon eu plant i'r ysgol agosaf. Mi fydd hynny yn golygu y bydd llai yn mynd i ysgolion Cymraeg am fod rhaid yn aml i ddisgyblion deithio i gyrraedd yr ysgol gynradd Gymraeg agosaf.

Mae'r cyngor yn cydnabod y bydd y penderfyniad yn cael effaith ar yr iaith, ond yn dweud na fydd yr effaith yn fawr.

Dim cinio am ddim

Ar Ionawr 8 mi benderfynodd cabinet y cyngor godi'r oedran y mae plant yn dechrau addysg lawn amser o dair i bedair oed. Roedden nhw'n dweud y bydd hyn yn arbed 拢4.5 miliwn y flwyddyn.

Mae'r cyngor hefyd wedi dweud wrth Newyddion Ar-lein na fyddan nhw chwaith yn cynnig trafnidiaeth i blant tair oed.

"Mi allith Cyngor Rhondda Cynon Taf gadarnhau na fyddan nhw yn darparu trafnidiaeth o adref i'r ysgol ar gyfer disgyblion fydd yn derbyn addysg rhan amser o fis Medi 2014 a hynny o achos mesurau llym Llywodraeth Prydain.

"Fydd y cyngor chwaith ddim yn darparu cinio am ddim i'r disgyblion yma am na fyddan nhw yn yr ysgol llawn amser," meddai llefarydd.

Mae Swyddog Maes UCAC yn yr ardal, Mererid Lewis Davies, yn dweud y gallith y newidiadau olygu na fydd y plant yn ddwyieithog o oedran ifanc yn y sir.

"Byddai cwtogi ar gludiant fel hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o rieni'n anfon eu plant i'r ysgol neu'r ddarpariaeth feithrin agosaf - ac felly'n eu hamddifadu o'r dewis i anfon eu plant i ysgol cyfrwng Cymraeg.

"Yn ei dro, mae hyn yn amddifadu'r plant o'r cyfle i ddod yn rhugl yn y Gymraeg o'r cychwyn cyntaf."

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd i'w Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2014-2017.

Cwestiynu targedau

Un o'i amcanion ydy cynyddu y nifer o blant saith oed sydd yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ddogfen ymgynghorol hefyd yn dweud ei bod nhw eisiau sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael o fewn pellter rhesymol o gartref y plentyn.

Mae Mererid Davies yn amau a fyddan nhw'n medru gwireddu eu hamcanion yn y ddogfen drafft.

"Rhaid edrych yn ofalus i weld a yw hyn yn cyd-fynd 芒 gofynion Llywodraeth Cymru ar Awdurdodau Lleol i hybu a hwyluso mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

"Mi fydd yn sicr yn ei gwneud hi'n anoddach i Rhondda Cynon Taf gwrdd 芒 thargedau'r Llywodraeth sy'n deillio o'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, ac mi fyddai hynny'n fater o bryder sylweddol iawn."

Wrth ymateb i sylwadau UCAC mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod y bydd y newidiadau yn cael rhywfaint o effaith ar addysg Gymraeg.

Ond maen nhw'n dweud bod 65% o blant ysgol meithrin yn byw o fewn pellter cerdded at ysgol Gymraeg.

"Gan edrych ar y ffigyrau yma a'r ffaith bod rhieni yn gwneud penderfyniad i ddewis addysg Gymraeg i'w plant yn hytrach na addysg Saesneg, rydyn ni yn ystyried y bydd y newid yn cael rhywfaint o effaith ar addysg Gymraeg ac felly'r iaith Gymraeg ond dim effaith fawr."

Mae'r datganiad yn dweud bod cynghorau eraill sydd ddim yn cynnig trafnidiaeth i blant oed meithrin wedi gweld cynnydd yn y nifer sydd yn dewis anfon eu plant i ysgolion Cymraeg.