麻豆官网首页入口

27 o lyfrgelloedd o dan fygythiad

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd cynghorau'n ailystyried cau llyfrgelloedd?

Mae 27 o lyfrgelloedd yn wynebu cael eu cau yn ystod y gwanwyn os yw cynlluniau awdurdodau lleol yn mynd yn eu blaen.

Dadl arweinwyr y cynghorau yw bod rhaid arbed arian ac y byddan nhw'n parhau i ddarparu gwasanaeth sy'n ofynnol o dan y gyfraith.

Ond mae arbenigwr wedi dweud wrth raglen Eye on Wales 麻豆官网首页入口 Cymru ei fod yn poeni nad yw'r cynghorau yn deall oblygiadau'r ddeddf.

Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cynnal adolygiad o gynlluniau'r cynghorau.

Y cynghorau sy'n bwriadu cau llyfrgelloedd yw Rhondda Cynon Taf (14), Castell-nedd Port Talbot (9), Wrecsam (2) a Cheredigion (2).

Bydd Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir y Fflint a Cyngor Sir Fynwy'n ystyried y mater yn 2015.

Dyw'r cynghorau eraill heb ddechrau edrych ar y posibilrwydd o arbed arian drwy gau llyfrgelloedd eto.

O dan y Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus rhaid i gynghorau ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd "cynhwysfawr ac effeithlon".

Dyw oblygiadau hynny heb gael eu herio yn y llysoedd ac mae Dr Steve Davies o Brifysgol Caerdydd yn amau a yw cynghorau'n deall beth yw eu cyfrifoldebau.

'Statudol'

"Mae'n edrych fel nad yw llawer o gynghorau hyd yn oed yn gwybod fod llyfrgelloedd yn wasanaeth statudol.

"Maen nhw wedi siarad am amddiffyn addysg graidd a chyllidebau gwasanaethau cymdeithasol, ond dyw'r gweddill ddim mor bwysig, mae'n ymddangos.

"Dyw llyfrgelloedd ddim yn rhywbeth maen nhw'n gallu dewis eu ddarparu, dyna ydi'r gyfraith.

"Bydd y ddadl yn troi ar beth sy'n cyfri fel darpariaeth ddigonol nid a ddylai'r gwasanaeth gael ei ddarparu o gwbl."

Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant John Griffiths ysgrifennu at y cynghorau cyn y Nadolig er mwyn eu hatgoffa i "gofio eu dyletswyddau".

Adolygiad

Cyhoeddodd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal o gynlluniau presennol cynghorau a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, yngl欧n 芒 sut maen nhw'n bwriadu darparu'r gwasanaeth.

Dywedodd ar y pryd: "Y nod fydd dod o hyd i fodelau cynaliadwy sy'n sicrhau bod cymaint o gyfleoedd 芒 phosib ar gyfer cydweithio, meithrin partneriaethau ac arloesi.

"Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried modelau newydd ar gyfer dod o hyd i ddeunyddiau ac ymgymryd 芒 swyddogaethau gweithredol, gan gynnwys ehangu arferion da presennol, fel r么l Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gydlynu adnoddau digidol ar ran llyfrgelloedd Cymru."

Mae disgwyl y bydd Mr Griffiths yn derbyn yr adroddiad cyn diwedd y gwanwyn.

Mae rhaglen Eye on Wales yn cael ei darlledu am 1:30pm ar Radio Wales.