麻豆官网首页入口

TGAU Saesneg: CBAC i ddechrau adolygiad mewnol

  • Cyhoeddwyd
Arholiadau

Mae bwrdd arholi CBAC wedi dechrau adolygiad mewnol o ganlyniadau TGAU Saesneg Iaith gafodd eu rhoi i ddisgyblion yr wythnos diwethaf.

Roedd athrawon, disgyblion a rhieni yn poeni bod canlyniadau'r arholiadau, gafodd eu sefyll ym mis Ionawr, yn llawer is na'r disgwyl.

Mewn llythyr agored mae'r prif weithredwr Gareth Pierce wedi dweud bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i "sicrhau bod ymgeiswyr yn derbyn y radd mae eu gwaith yn ei haeddu".

Dyma oedd y flwyddyn gyntaf i'r cwrs, sy'n benodol i Gymru, gael ei gynnal.

'Tawelu meddyliau'

Yn y llythyr dywedodd Mr Pierce: "Er mwyn tawelu rhywfaint ar feddyliau'r canolfannau, mae adolygiad mewnol o'r marcio wedi ei gychwyn.

"Byddwn yn rhannu casgliadau'r adolygiad hwn 芒'r canolfannau unigol cyn gynted ag y bydd yn barod, rhwng Mawrth 13 a 19."

Yn ogstal ag adolygu'r canlyniadau, mae CBAC yn bwriadu cynnig "cefnogaeth ychwanegol" i ysgolion ac athrawon cyn i'r arholiadau nesaf gael eu cynnal.

Mae'r corff yn bwriadu:

  • cynnal cyfres o gyfarfodydd adolygu gyda gwahoddiad i pob pennaeth Saesneg;

  • darparu deunyddiau asesu enghreifftiol ychwanegol, ynghyd 芒 chynlluniau marcio, erbyn dechrau tymor yr haf;

  • rhoi adborth ychwanegol i'r "ddau gwestiwn a brofodd i fod y rhai mwyaf heriol ar bapurau Ionawr".

'Siom gyffredin'

Roedd Mr Pierce wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ail-ystyried cyflwyno nifer o gyrsiau TGAU newydd fis Medi nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, y byddai swyddogion yn ymchwilio i'r ffactorau gyfrannodd at ddirywiad canlyniadau TGAU Saesneg yng Nghymru ym mis Ionawr.

Yn y llythyr dywedodd Mr Pierce: "Rydym yn darparu cymwysterau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant o safon a byddwn yn parhau i wneud hynny, yn unol 芒 gofynion Llywodraeth Cymru.

"Cydnabyddwn y siom gyffredin a brofwyd o ran y graddau. Fel rhan o'n cyfraniad ni at symud y sefyllfa hon yn ei blaen, byddwn yn rhoi'r mesurau a amlinellwyd uchod ar waith ar fyrder."