麻豆官网首页入口

Prifathrawon yn poeni am ganlyniadau TGAU Saesneg

  • Cyhoeddwyd
arholiadau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae penaethiaid wedi cysylltu 芒 Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yn s么n am eu pryderon am ganlyniadau'r arholiadau ym mis Ionawr

Mae nifer o brifathrawon yn poeni am ganlyniadau isel y modiwlau TGAU Saesneg gafodd eu sefyll ym mis Ionawr, yn 么l Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau.

Ar wefan y Gymdeithas, mae ysgrifennydd Cymru, Robin Hughes yn dweud: "Roedd nifer o benaethiaid wedi cysylltu 芒 ni yn syth wedi derbyn y canlyniadau am eu bod wedi'u synnu pa mor annisgwyl o isel roedden nhw.

"Fe anfonon ni at ein cynrychiolwyr ym mhob ardal awdurdod i holi a oedd y farn hon yn cael ei rhannu ac fe dderbynion ni dipyn o ymateb yn sydyn iawn.

"Roedd bron pob un yn dweud bod rhywbeth od yn digwydd.

"Mae'r canlyniadau hyn yn rhy bwysig i ysgolion, i athrawon, ac, yn bwysicach fyth, i'r disgyblion, i fod ag unrhyw amheuaeth yn eu cylch."

Ar hyn o bryd mae hi'n aneglur beth ydy union faint y broblem efo'r canlyniadau.

Cymhwyster newydd

Mae'r canlyniadau hyn ar gyfer unedau cymhwyster newydd, y TGAU Saesneg Iaith sy'n benodol ar gyfer Cymru'n unig.

Cafodd arholiadau eu cynnal am y tro cyntaf yn Ionawr 2014, ac fe fydd y canlyniadau yn cyfrannu at y radd derfynol unwaith y bydd unedau eraill wedi'u cwblhau yn yr wythnosau nesaf.

Yn 么l Mr Hughes: "Mae penaethiaid profiadol yn dweud bod y canlyniadau tipyn yn is na'r hyn oedd i'w ddisgwyl.

"Mae angen edrych ar hyn yn fuan fel nad ydi disgyblion yn colli brwdfrydedd wrth iddyn nhw ddod at ddiwedd y cwrs ac anelu am arholiadau'r haf."

Problem gyda ffiniau'r graddau

Dywedodd Rex Phillips o undeb yr NASUWT: " ... mae'n ymddangos bod prifathrawon yn awgrymu bod yna broblem gyda ffiniau'r graddau."

Mae Dr Chris Howard, Cyfarwyddwr dros dro NAHT, wedi dweud bod hwn yn arholiad newydd sydd wedi cael ei baratoi gyda meini prawf newydd.

Dywedodd y byddai "ysgolion ar draws Cymru yn ymchwilio i'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau nesaf."

"Os ydi hi'n ymddangos nad ydi'r hyn mae'r arholwyr wedi'i ddarganfod yn cyd-fynd gyda beth roedd athrawon yn ei ragweld, yna fe fyddai'n ymddangos bod problem, ac efallai nad oedd disgyblion ac athrawon wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer yr hyn sy'n arholiad newydd."

Pwyslais ar gywirdeb

CBAC sy'n gyfrifol am osod yr arholiadau, ac mae'u prif weithredwr, Gareth Pierce, wedi dweud bod mwy o bobl wedi sefyll yr arholiadau hyn, sy'n rhoi mwy o bwyslais nag o'r blaen ar gywirdeb sillafu, strwythurau brawddegau a gramadeg yn gyffredinol nag o'r blaen.

Yn 2013, roedd cywirdeb yn cyfri am 30% o'r marc ond mae erbyn hyn wedi cynyddu i 50%.

Eleni, mae myfyrwyr wedi gorfod dadansoddi darn o lenyddiaeth dydyn nhw heb ei weld o'r blaen, o dan amodau arholiad.

Yn 2013, roedden nhw wedi cael eu profi ar ddarn o waith roedden nhw wedi'u astudio, a hynny mewn asesiad wedi'i reoli, yn hytrach nag arholiad.

Mae CBAC yn dweud bod arholwyr wedi nodi eu pryderon bod ymgeiswyr yn gweld y gofynion cywirdeb a'r gwaith cymharu newydd yn sialens.

Dywedodd Gareth Pierce: "Mae'r athrawon hynny sydd 芒 phryderon am ganlyniadau ymgeiswyr penodol yn gallu ymholi yn ein gwasanaeth canlyniadau ar ein gwefan, sydd wedi'i ddiogelu, lle gellir gofyn am ail-wirio clerigol ac edrych ar bapurau arholiad gwreiddol."

Camarweiniol i gymharu'n uniongyrchol

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod "yn ymwybodol bod canlyniadau TGAU Saesneg Iaith o Ionawr 2014 yn is na rhai Ionawr 2013.

"Ond fodd bynnag, mae'n gamarweiniol i geisio gwneud cymhariaethau uniongyrchol rhwng unedau gan bod y gofynion newydd wedi'u strwythuro'n wahanol i'r gofynion blaenorol.

"Hefyd, roedd y ceisiadau ar gyfer Ionawr 2014 yn uwch nag ar gyfer Ionawr 2013, gydag ysgolion yn penderfynu cynnig cyfran fuwch o ddysgwyr cyn diwedd y cwrs.

"Be sy'n bwysig ydi'r canlyniad terfynol pan fydd dysgwyr yn cael eu canlyniadau TGAU Saesneg Iaith yn yr haf."

Ffrae ail-raddio

Roedd ffrae am ganlyniadau arholiadau TGAU Saesneg yn 2012 pan fu'n rhaid i filoedd o bapurau gael eu hail-farcio.

Roedd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, yn honni bod disgyblion yng Nghymru yn dioddef "anghyfiawnder" wedi iddyn nhw dderbyn graddau llawer is na'r disgwyl yn sgil newid ffiniau'r graddau - ac fe fynnodd i'r papurau gael eu hail-farcio.

O ganlyniad fe gododd graddau 1,202 o fyfyrwyr o radd D i C, a 598 o C i B.

Roedd gostwng y ffiniau wedi creu newidiadau i raddau eraill ac fe olygydd yn y pen draw fod 2,386 o ddisgyblion yn derbyn graddau uwch.

Roedd cyn-gadeirydd CBAC, David Lewis, wedi honni bod Mr Andrews wedi diystyru cyngor am gymhlethdodau ail-farcio ac ail-raddio.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "awdurdodaidd ac yn ddi-glem."

Roedd Mr Andrews wedi wfftio'r honiadau a dweud bod y sylwadau yn dangos yr angen i reolaeth CBAC newid.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol