Silverstone yn gofyn i Cameron atal y nawdd i drac rasio

Disgrifiad o'r llun, Fe fyddai'r trac rasio gwerth 拢280 miliwn yn cael ei adeiladu ger Glyn Ebwy, gyda gwesty a chanolfan hamdden.

Mae trac rasio Silverstone wedi gofyn i'r Prif Weinidog, David Cameron, beidio 芒 gwario hyd at 拢30 miliwn ar y cynlluniau ar gyfer trac Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy.

Mae adroddiad ym mhapur newydd y Times yn dweud bod y trac rasio adnabyddus yn poeni y byddai'r cwrs newydd yng Nghymru gyda mantais ariannol anferthol dros draciau Prydeinig sydd eisoes wedi'u sefydlu.

Mae hefyd yn honni bod amheuon a fyddai'r trac gwerth 拢280 miliwn yn cynhychu'r 6,000 o swyddi a 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn sy'n cael ei awgrymu.

Dywedodd Prif Weithredwr Cwmni Datblygu Pennau'r Cymoedd bod y llythyr yn "siomedig".

'Bygythiad'

Mae Silverstone wedi cadarhau bod eu rheolwr gyfarwyddwr, Richard Phillips, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i gwyno am y sefyllfa.

Yn y llythyr, dywedodd: "Byddai arian gan lywodraeth Cymru a/neu'r DU i gynllun Cylchffordd Cymru yn golygu trosglwyddo adnoddau gwladwriaethol, sy'n rhoi mantais economaidd i Gylchffordd Cymru dros gylchffyrdd eraill. Oherwydd hynny, byddai'n gyfystyr 芒 chymorth gwladwriaethol anghyfreithlon.

"Mae nifer o gylchffyrdd preifat sydd wedi eu sefydlu yn y DU, gan gynnwys Cymru, sy'n teimlo y byddai cylchffordd wedi ei ariannu gan y llywodraeth yn fygythiad i'r diwydiant."

Mewn datganiad, dywedodd Cylchffordd Cymru eu bod wedi cael gwybod am lythyr cwmni Silverstone.

Ond dywedodd y cwmni bod y cynllun wedi ei leoli yn un o'r ardaloedd tlotaf yn y wlad ac felly ei fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth o'r fath i hybu'r economi.

Dywedodd Michael Carrick, Prif Weithredwr Cwmni Datblygu Pennau'r Cymoedd: "Rydyn ni'n siomedig i glywed am y llythyr, mae'n ymddangos bod Silverstone yn gwrthwynebu buddsoddiad o fewn y sector moduro sydd yn hanfodol i barhau gyda'r twf a datblygiad yn y DU."

Ychwanegodd llefarydd: "Mae llywodraeth Cymru a'r gymuned leol ym Mlaenau Gwent yn deall ac yn cefnogi Cylchffordd Cymru fel catalydd ar gyfer twf economaidd ac fel lleoliad ar gyfer adloniant o'r safon uchaf."

"Mae Cylchffordd Cymru yn gyfle unigryw i fuddsoddi: datblygiad wedi ei gynllunio i gyrraedd disgwyliad y cyhoedd o leoliad chwaraeon modern, a chynnig masnachol all greu hwb busnes i gynnal a chefnogi'r diwydiant moduro ym Mhrydain."

Oedi datblygu

Mae problemau gyda chais cynllunio Cwmni Datblygu Pennau'r Cymoedd wedi gohirio dechrau'r gwaith ar y safle.

Dydy'r datblygwyr heb arwyddo cytundeb i ddod 芒 ras beiciau modur y MotoGP i Lyn Ebwy erbyn Medi 2015, er yr addewidion.

Mae'r ras yn rhan ganolog o gynllun y cwmni - cynllun y maen nhw'n honni fydd yn creu 6,000 o swyddi ac yn denu miloedd ar filoedd o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae'r datblygwyr yn dweud y byddan nhw hefyd yn adeiladu gwestai, eisteddle, parc technoleg a pharc solar.

Mae cwmni Datblygu Pennau'r Cymoedd wedi cyflwyno'r cais cynllunio ar gyfer y datblygiad i gyngor Blaenau Gwent ym mis Chwefror.

Dechrau mis Mawrth, roedd 麻豆官网首页入口 Cymru wedi deall bod y datblygwyr yn gofyn am hyd at 拢50m tuag at gost y cynllun gan lywodraethau Cymru a'r DU.

Ond mae Llywodraeth Cymru nawr wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru nad oedd Cylchffordd Cymru wedi gofyn iddyn nhw am arian.