Addysg Caerdydd 'angen gwella'n sylweddol'

Disgrifiad o'r llun, Fe ymwelodd Estyn 芒'r cyngor am y trydydd tro fis Chwefror eleni

Mae Estyn, y corff sy'n goruchwylio safonau ysgolion yng Nghymru, wedi cyhoeddi y bydd yn cadw golwg fanwl ar Gyngor Caerdydd gan fod gwasanaethau addysg yr awdurdod "angen gwella'n sylweddol".

Dyma'r categori gwaethaf ond un i awdurdodau lleol - dim ond "mesurau arbennig" sy'n is.

Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dweud y bydd swyddogion adran addysg y llywodraeth yn helpu'r awdurdod i fynd i'r afael 芒'r diffygion.

Unwaith y bydd Mr Lewis wedi asesu ymateb yr awdurdod yn llawn bydd yn ystyried a oes angen ymyrryd ymhellach.

Fe gafodd awdurdod lleol mwya' Cymru arolwg ym mis Ionawr 2011. Fe nododd arolygwyr bryderon oedd yn golygu y bydden nhw'n dychwelyd i weld os oedd y problemau wedi eu datrys.

Fe ddigwyddodd yr ail ymweliad fis Gorffennaf 2012, ond doedd arolygwyr ddim wedi eu bodloni 芒 datblygiad y gwelliannau.

'Cynnydd annigonol'

Fe ymwelodd Estyn 芒'r cyngor am y trydydd tro fis Chwefror eleni.

Yn ei adroddiad i'r cyngor, fe ddywedodd Estyn:

"Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i'r awdurdod gael ei arolygu, ac 20 mis ers yr ymweliad monitro cyntaf.

"Nid yw'r rhan fwyaf o'r deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gwella'n ddigon da yn ystod y cyfnod hwn, ac nid oes digon o gynnydd wedi'i wneud mewn llawer o feysydd i'w gwella yn y ddarpariaeth ac o ran yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth.

"Felly, bernir bod Cyngor Sir Caerdydd wedi gwneud cynnydd annigonol mewn perthynas 芒'r argymhellion yn dilyn yr arolygiad craidd yn Ionawr 2011 a'r ymweliad monitro ym Mehefin 2012."

'Addysg yn flaenoriaeth'

Er i arolygwyr ganfod bod rhai agweddau o gefnogaeth y cyngor i ysgolion wedi gwella, roedden nhw hefyd yn teimlo nad oedd gwelliant digonol mewn mannau eraill.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Dim digon o welliant yn safonau ysgolion ers yr arolwg yn 2011 a'r ymweliad yn 2012;
  • Wrth gymharu ysgolion Caerdydd ag ysgolion tebyg, doedd dim digon o ysgolion yn y 25% uchaf;
  • Wrth gymharu ysgolion Caerdydd ag ysgolion tebyg, mae perfformiad Cyfnod Allweddol 3 wedi parhau i fod yn well na'r cyfartaledd, ond mae perfformiad Cyfnod Allweddol 4 wedi gwaethygu yn y tair blynedd diwethaf;
  • Er bod y bwlch rhwng bechgyn a merched yn llai yng Nghaerdydd, mae hyn oherwydd perfformiad gwan gan y merched.

Mae gan yr awdurdod 50 diwrnod i baratoi cynllun gweithredu. Mae angen i'r cynllun hwn amlinellu'r camau y bydd yr awdurdod yn eu cymryd er mwyn gwneud y gwelliannau angenrheidiol yn 么l Estyn.

Yn ogystal, mae'n rhaid i'r cynllun ddatgan pwy fydd yn gyfrifol am dasgau, cynnwys targedau a datgan adnoddau perthnasol a sut y bydd llwyddiant yn cael ei gofnodi.

Wrth ymateb i ofynion Estyn, dywedodd aelod cabinet addysg a sgiliau Caerdydd, y cynghorydd Julia Magill: "Dwi wedi ei gwneud hi'n glir i gynghorwyr ers i mi ddod yn aelod cabinet, fod angen gwaith i sicrhau bod gwelliannau brys yn digwydd o fewn ein hysgolion.

"Mae addysg yn flaenoriaeth allweddol i Gaerdydd ac mae argymhellion Estyn yn rhai 'dy ni eisoes wedi eu hadnabod ac mae'n nhw'n ffurfio rhan o'r Cynllun Datblygu Addysg a'r Cynllun Corfforaethol."