麻豆官网首页入口

Pencampwr newydd i ysgolion heriol

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae safonau addysg wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar

Mae gan ysgolion Cymru bencampwr newydd, gyda'r cyfrifoldeb o wella safonau mewn 40 o ysgolion ar draws y wlad.

Yr Athro Mel Ainscow CBE, o Brifysgol Manceinion, fydd pencampwr newydd cynllun Her Ysgolion Cymru, cynllun Llywodraeth Cymru i helpu ysgolion sydd yn perfformio'n wael.

Bydd disgwyl i'r Athro Ainscow gefnogi ysgolion sydd yn gweithio mewn amgylchiadau heriol, wrth i'r llywodraeth ymateb i bryderon am safonau addysg yng Nghymru.

Bwriad y llywodraeth yw gwario 拢20 miliwn ar becyn o fesurau er mwyn cefnogi ysgolion sydd yn cael "anawsterau o ran cyflawni".

Fe allai hyn olygu rhannu arbenigedd ac adnoddau gydag ysgolion mwy llwyddianus.

"Llysgennad perffaith"

Mae Mel Ainscow, o adran addysg Prifysgol Manceinion, wedi arwain cynllun tebyg yng ngogledd orllewin Lloegr.

Mae ganddo brofiad eisoes o gydweithio ag ysgolion yng Nghymru er mwyn ceisio gwella eu perfformiad.

Yn 么l y Gweinidog Addysg Huw Lewis AC:

"Mel Ainscow yw'r llysgennad perffaith ar gyfer ein cynllun herio. Mae ei ddealltwriaeth o'r dirwedd addysgiadol yng Nghymru yn amhrisiadwy wrth i ni ddatblygu ein cynllun arloesol a chyffrous Her Ysgolion Cymru. Mae penodi pobl o ansawdd uchel, fel Mel Ainslow, sydd 芒 record dda mewn gwella addysg i blant a phobl ifanc yn allweddol."