Annog rhieni i gynorthwyo'u plant

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaw'r ymgyrch yn dilyn canlyniadau siomedig i Gymru ym hmhrofion rhyngwladol PISA yn Rhagfyr 2013

Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi lansio ymgyrch sy'n ceisio dangos sut y gall rhieni wneud gwahaniaeth i addysg eu plant.

Bydd yr ymgyrch - Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref - yn annog rhieni i gymryd rhan yn addysg eu plant trwy ddangos iddyn nhw bod pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Rhai esiamplau sy'n cael eu cynnig yn yr ymgyrch yw :-

  • Deffro'r plant yn gynnar i fynd i'r ysgol;
  • Sicrhau bod plant yn cael noson dda o gwsg;
  • Gwneud amser i ddarllen gyda phlant;
  • Cynorthwyo gyda gwaith rhifedd;
  • Mynd i nosweithiau rheini yn yr ysgol;
  • Holi'r plant am yr ysgol.

Mae'r gweinidog yn lansio'r ymgyrch yn swyddogol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn Nhrel谩i, Caerdydd, ddydd Mawrth.

'R么l ganolog'

Dywedodd Mr Lewis: "Rwyf am weld safonau a pherfformiad yn ysgolion Cymru yn gwella yn gyffredinol.

"Mae'n glir fod gan rieni r么l ganolog er mwyn gwneud i hyn ddigwydd. Ni allwn wneud hyn heb eu cefnogaeth, ac fel tad rwy'n gwybod mai'r pethau bychain yr ydym yn gwneud fel rhieni sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwrnod ysgol ein plant.

"Pan ydym yn edrych ar brofion rhyngwladol, mae peth tystiolaeth i ddangos mai'r gwledydd lle mae rhieni'n dod yn rhan o addysg eu plant yw'r rhai mwyaf llwyddiannus.

"Os ydym am godi safle yn rhyngwladol, mae'n rhaid i hynny ddigwydd yng Nghymru hefyd.

"Dyw e ddim yn gymhleth, yn wir mae e mor syml 芒 sicrhau eu bod yn cael digon o gwsg a rhoi cefnogaeth ac anogaeth yn y cartref.

"Mae helpu gyda darllen, rhifau a gwaith cartref yn bwysig iawn, ond fe allai dangos diddordeb a dangos fod gennych ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol yn gallu bod o gymorth yn y tymor hir."

Gwaethaf yn y DU

Fe ddaw'r ymgyrch wythnos o hyd, wedi i ddogfen ddaeth i sylw 麻豆官网首页入口 Cymru ddangos bod Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd am safonau addysg yng Nghymru chwe blynedd yn 么l.

Ym mis Rhagfyr y llynedd datgelodd canlyniadau rhyngwladol PISA fod Cymru wedi disgyn yn is yn y tabl rhyngwladol o ran perfformiad disgyblion nag yn y profion blaenorol.

Ym maes mathemateg, er enghraifft, roedd Cymru yn safle 43 allan o 68 o wledydd o'i gymharu 芒 40 yn 2010.

Cymru hefyd oedd y gwaethaf yn y DU mewn profion darllen a gwyddoniaeth.