麻豆官网首页入口

Adolygu'r system fandio ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol

Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhoeddi y bydd adolygiad o'r system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd yn cael ei gynnal.

Yn ogystal, bydd model ar gyfer bandio ysgolion cynradd yn cael ei ystyried er mwyn "nodi'r ysgolion hynny y mae angen cymorth arnynt fwyaf".

Ychwanegodd Mr Lewis: "Mae model ar gyfer graddio ysgolion cynradd hefyd yn cael ei ddatblygu i'n helpu ni i nodi'r ysgolion hynny y mae angen cymorth arnynt fwyaf.

"Bydd yn rhoi darlun clir i rieni ledled Cymru o sut mae ysgolion yn perfformio.

"Bydd yr adolygiad ar fandio ysgolion uwchradd a datblygu model graddio ysgolion cynradd yn cael eu hystyried ochr yn ochr 芒'r System Categoreiddio Genedlaethol a ddatblygwyd gan y consortia rhanbarthol ar gyfer ysgolion.

"Bydd model diwygiedig ar gyfer bandio ysgolion uwchradd a model graddio ysgolion cynradd newydd yn cael eu cyflwyno yn ystod tymor yr hydref 2014."