麻豆官网首页入口

Ymgyrch i achub cangen banc HSBC ym Mhenygroes

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr PenygroesFfynhonnell y llun, Ioan Pollard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trigolion yn pryderu am ddyfodol Stryd Fawr Penygroes

Mae cannoedd o bobl Dyffryn Nantlle wedi ymuno yn yr ymgyrch i ail-agor cangen banc HSBC ym Mhenygroes, Gwynedd.

Mae deiseb wedi ei llofnodi gan 679 o bobl, 52 o'r rhain yn fusnesau lleol, er mwyn ceisio perswadio'r banc i ail-ystyried eu penderfyniad i gau eu cangen yn y pentref.

"Rydym yn galw ar fanc HSBC i gadw'r gangen ym Mhenygroes ar agor," meddai'r Cynghorydd Dyfed Edwards, sy'n arwain yr ymgyrch.

"Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at ein pryderon yn lleol yngl欧n 芒 phenderfyniad y banc i gau'r gangen. Mae 679 o drigolion a 52 o fusnesau wedi llofnodi'r ddeiseb sy'n dangos cryfder teimlad y gymuned leol."

Daeth y cyhoeddiad yn sioc i'r ardal, yn enwedig gan fod HSBC wedi gwneud cyhoeddiad cadarnhaol yngl欧n 芒 dyfodol canghennau fel Penygroes yn dilyn ailstrwythuro mawr ym mis Ebrill 2012.

'Asesu'r sefyllfa'

Pan ofynnodd Cymru Fyw wrth HSBC i ymateb i'r penderfyniad, dywedodd llefarydd eu bod wedi asesu'r sefyllfa yn ofalus ym Mhenygroes, ond gan fod y defnydd o'r gangen wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd yn rhaid gwneud y penderfyniad i gau.

Mae'r ddeiseb wedi ei hanfon i Gaerdydd at Gyfarwyddwr Rhanbarthol HSBC.

Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod angen dirfawr am wasanaethau banc ar y pentref gwledig sy'n gwasanaethu, nid yn unig pobl leol, ond cwsmeriaid busnes sydd angen cyfleusterau bancio yn rheolaidd.

Eglurodd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Os na allwn ni gael banc ar agor drwy'r wythnos, dwi wedi gwneud achos i gadw'r gangen ar agor am oriau penodol; hyd yn oed os am un bore ac un prynhawn yr wythnos er mwyn sicrhau nad yw busnesau lleol yn dioddef yn yr ardal wledig hon."

Ffynhonnell y llun, Ioan Pollard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae HSBC wedi cau eu cangen ym Mhenygroes

Colled fawr i'r ardal

Dywedodd Ll欧r Williams, fferyllydd lleol wrth Cymru Fyw: "Bydd y golled i'w theimlo ar hyd a lled yr ardal, gan mai dyma'r unig fanc rhwng trefi Caernarfon a Phorthmadog.

"Roedd pobl o gymunedau tu allan i Benygroes yn dod i'r pentref i fancio, roedd hyn yn golygu eu bod yn fwy tebygol o wario eu harian yn y siopau lleol" meddai.

"Bydd hefyd yn achosi anghyfleustra mawr i berchnogion busnes yn Nyffryn Nantlle, gan fod bellach angen teithio i Gaernarfon sy'n tynnu rhywun o'i waith am tua 2 awr yr wythnos i fancio, lle oedd rywun yn arfer gallu tario i mewn i'r banc ryw dro yn ystod yr wythnos pan oedd yn gyfleus."

Ffynhonnell y llun, Ioan Pollard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Siop Griffiths wedi bod yng nghau ers peth amser

Dim ond un adeilad arall i ychwanegu at restr o adeiladau gwag sydd i'w canfod ar Heol y D诺r ym Mhenygroes yw'r banc bellach. Mae mudiad 'Dyffryn Nantlle 2020' wedi bod yn ymgyrchu i adfer rhai o'r adeiladau gwag yn y pentref er mwyn adfywio bwrlwm a chynyddu balchder pobl yn eu hardal.

Mae'r mudiad eisoes wedi cyfarfod yn gyhoeddus nos Iau er mwyn casglu syniadau ar beth yw dymuniadau pobl ar gyfer yr adeiladau gwag.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ap Iago wrth 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw fod sefydlu menter gyd-weithredol megis siop goffi neu ganolfan ieuenctid yn un opsiwn.

Cwmni menter Antur Nantlle sydd yn berchen ar nifer o adeiladau'r pentref gan gynnwys hen adeilad yr HSBC.

Mae Craig ab Iago hefyd yn un o gyfarwyddwyr y cwmni, ac ychwanegodd fod y bwrdd yn cyfarfod nos Iau, 24 Gorffennaf ac y byddant yn trafod dyfodol adeilad y banc yn y pwyllgor hwnw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol