Pryderon ynglŷn â chynlluniau Cylchffordd Cymru

Yn ôl rhaglen Newyddion 9 mae pryderon wedi eu codi gan reolwyr dau o draciau rasio Cymru ynglŷn â chynlluniau i ddatblygu trac rasio gwerth miliynau o bunnoedd yng Nglyn Ebwy.

Dywedodd rheolwr un trac rasio bod yr awgrym y gallai datblygiad Cylchffordd Cymru greu 6,000 o swyddi yn "hynod o optimistaidd" ac efallai y byddai'n gallu bod yn fethiant llwyr.

Mae rheolwr trac rasio arall wedi dweud ei fod yn poeni am sicrhau gwerth am arian. Mae Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru yn deall bod datblygwyr Cylchffordd Cymru yn mynd i ofyn am £50 miliwn o gefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

Yn ddiweddar sicrhaodd datblygwyr Cylchffordd Cymru y byddai Pencampwriaeth Moto GP Prydain yn cael ei gynnal yno am y bum mlynedd nesaf, a dydd Mawrth cyhoeddwyd y byddai'n cael ei gynnal yn Donnington Park yn 2015.

Nid yw'r trac rasio yng Nglyn Ebwy wedi ei adeiladu hyd yn hyn ac mae'r datblygwyr yn parhau i chwilio am fuddsoddiad preifat.

'Trac rasio ychwanegol does neb ei angen'

Erbyn hyn mae eraill yn y diwydiant yng Nghymru wedi codi pryderon. Wrth drafod y 6,000 o swyddi sydd wedi eu hawgrymu gan y datblygwyr, dywedodd Christopher Bibb, Rheolwr Cyffredinol Trac Môn:

"Maen nhw'n optimistaidd iawn ac mae'r ffigwr wedi ei seilio ar ddenu busnes o 'ddyffryn chwaraeon moduro', sy'n radiws o tua 30 milltir oddi wrth Silverstone... bydd yna wrthwynebiad enfawr gan bobl ynglŷn â symud ..... i ardal newydd ble rydan ni ddim yn gwybod os fydd pethau'n cychwyn, heb sôn am ffynnu."

Mae Trac Môn wedi derbyn ychydig dros £2 miliwn mewn grantiau yn y blynyddoedd diwethaf.

Aeth Mr Bibb ymlaen i ddweud: ""Beth sy'n fy mhryderu i ydi y byddan nhw efallai yn derbyn cefnogaeth grantiau, bydd y trac yn cael ei adeiladu, ond ni fydd y swyddi'n cyrraedd, ni fydd y buddsoddiad preifat yn cyrraedd.

"Byddwn ni'n cael ein gadael gyda thrac rasio ychwanegol does neb ei angen... a bydd gallu llawer o'r traciau rasio presennol i weithredu'n cael ei effeithio."

'Mwy o draciau rasio na chystadleuwyr'

Mae Phil Davies, Cyfarwyddwr Trac Rasio Pen-bre, hefyd wedi codi pryderon:

"Beth sy'n fy ffwndro ydi'r ochr ariannol, er bod rasio ceir yn fusnes eithaf mawr, tydi'r ochr yn ymwneud â thraciau rasio ddim yn tueddu i wneud elw mawr.

"Felly sut mae'r ffigyrau'n gweithio mewn gwirionedd... maen nhw'n dweud ei fod o'n fuddsoddiad o £300 miliwn. Os caiff £100 miliwn o hwnnw ei wario yn adeiladu'r trac rasio, tydw i ddim yn gallu gweld, yn yr oes sydd ohoni, sut y bydd y buddsoddwyr yn gallu gwneud y pres hwnnw'n ôl.

"Dyna fy mhryder i, gwerth am arian i bobl Cymru. Mae gennym ni ddau drac rasio yng Nghymru, ac rydw i'n teimlo y byddai'n well, o ran gwerth am arian, pe bai'r traciau yma'n cael eu huwchraddio.

'Mewn trafodaethau'

Dywedodd llefarydd ar ran Cylchffordd Cymru:

"Bydd Cylchffordd Cymru yn ymateb mewn manylder i'r holl faterion sydd wedi eu codi ynglÅ·n â'r datblygiad gan raglen Newyddion 9 y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú.

"Ar hyn o bryd rydym ni mewn trafodaethau gyda nifer o bartneriaid masnachol a gyda lleoliadau rasio yn y DU i gynnal Cystadleuaeth Moto GP Prydain 2015.

"Cyn gynted â bod y trafodaethau wedi dod i ben byddwn yn fodlon ymateb yn llawn."