Lansio ymgyrch i hyrwyddo TGAU newydd Cymru

Mae cynllun i gyflwyno arholiadau TGAU newydd i Gymru wedi ei gefnogi gan academyddion ac arweinwyr busnes.

Bydd y newidiadau, sydd i fod i ddod i rym o fis Medi nesaf, yn cynnig cymwysterau newydd mewn mathemateg, Cymraeg a Saesneg.

Mae'r arholiadau Llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg hefyd wedi eu newid, yn ogystal 芒 chais i wella'r Fagloriaeth Gymreig.

Mae'r ymgyrch hyrwyddo yn cael ei lansio ddydd Llun.

Datblygu sgiliau

Yn 么l Llywodraeth Cymru, bydd y cymwysterau newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu sgiliau, yn enwedig llythrennedd a rhifedd, a'r bwriad yw paratoi pobl ifanc yn well ar gyfer byd gwaith neu astudio pellach.

Cafodd y newidiadau eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, yn dilyn pryder am ddirywiad mewn safonau addysg.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi gweithio gyda'r byd addysg wrth lunio'r cymwysterau newydd.

Fel rhan o'r diwygio, mae , sy'n cynnwys cefnogaeth gan swyddog o Brifysgol Rhydychen, ac is-ganghellor Prifysgol Caergrawnt.

Ar y wefan, mae Ceri Assiratti o Grwp Admiral yn croesawu'r ffaith bod y llywodraeth wedi "ystyried anghenion busnesau" wrth lunio'r arholiadau, tra bod Janet Jones o Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud ei bod yn falch bod ffocws ar lythrennedd a rhifedd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: "Bydd y cymwysterau gwell yma yn cyrraedd anghenion pobl ifanc ac yn helpu i gefnogi economi Cymru.

"Byddan nhw yn cael eu hadnabod fel safon rhagoriaeth; y bydd cyflogwyr a phrifysgolion yn ymddiried ynddynt, yn gwerthfawrogi ac yn eu parchu, nid yn unig yng Nghymru ond y DU ac yn rhyngwladol."