麻豆官网首页入口

TGAU: newidiadau i'r pynciau

  • Cyhoeddwyd
Exam paper
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd newidiadau i'r pynciau TGAU yn cael eu cyflwyno yn 2015

Mae pedwar TGAU newydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

O fis Medi 2015 ymlaen bydd disgyblion yn sefyll arholiadau newydd Cymraeg Iaith a Saesneg Iaith a bydd newidiadau hefyd i'r pwnc mathemateg. Rhifedd a thechnegau mathemateg fydd y pynciau y bydd disgyblion yn gwneud ymhen dwy flynedd.

Dim ond yng Nghymru fydd yr arholiadau yn cael eu cynnig.

Dywed y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis ei bod hefyd yn ystyried diwygio pynciau TGAU eraill. Mae'n debygol y bydd Cymraeg Llenyddiaeth a Saesneg Llenyddiaeth yn cael eu newid ac mae'r Llywodraeth yn dweud nad ydynt yn diystyru pynciau eraill.

Dywedodd Huw Lewis mewn datganiad: "Yn benodol, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa mor briodol yw'r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar hyn o bryd - gan edrych yn arbennig ar addasrwydd y manylebau mwy galwedigaethol."

Yn raddol y bydd unrhyw newid yn digwydd meddai ac mae'n dweud y bydd cyhoeddiad pellach yn yr hydref am ddiwygiadau eraill ar gyfer 2016 a 2017.

Mae'r llywodraeth yn barod wedi cyhoeddi na fydd disgyblion lefel A sy'n dechrau eu cyrsiau ym mis Medi'r flwyddyn nesaf yn cael yr hawl i sefyll arholiadau ym mis Ionawr.

Y drefn bresennol yw bod pobl ifanc yn medru dewis gwneud rhai arholiadau ym mis Ionawr a'r gweddill yn yr haf. Ond bydd hyn yn dod i ben yn y dyfodol.

Mae'r datganiad yn nodi bod yna awydd i beidio cael anghysondeb ar draws Prydain o ran y cymwysterau lefel A:

"Roedd yr Adolygiad o Gymwysterau yn argymell y dylem 'gadw'r un Safonau Uwch 芒 Lloegr a Gogledd Iwerddon lle'n bosibl'.

"Yng ngoleuni hyn, rydym o'r farn ar hyn o bryd y dylai'r cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig, os yw'n briodol, rannu'r un cynnwys ag sydd yn Lloegr (a Gogledd Iwerddon o bosibl).

"Rydym hefyd yn ystyried ei bod yn briodol cyflwyno cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig, i'r graddau posibl, ar yr un pryd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon."

Bydd unrhyw newidiadau i'r cymwysterau yma yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref.