Dim Draig Goch ar drwyddedau gyrru

Disgrifiad o'r llun, Bydd trwyddedau gyrru yn cynnwys Jac yr Undeb yng Nghymru, Lloegr a'r Alban

Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod galwadau bod baner Cymru'n opsiwn ar drwyddedau gyrru.

Bu'r Weinyddiaeth Drafnidiaeth yn ystyried cynnig dewis o faneri cenedlaethol ar drwyddedau ond dywedodd y byddai'r gost yn "ormodol".

Bydd baner Jac yr Undeb yn cael ei hargraffu ar drwyddedau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar gost o 拢188,000.

Hyd yn hyn mae dros 5,000 wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn y newid.

Ymatebodd y llywodraeth ar 么l cwestiwn Seneddol AS Plaid Cymru, Hywel Williams.

'Cryfhau hunaniaeth'

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns: "Mae arddangos baner yr undeb ar drwyddedau gyrru yn cryfhau synnwyr hunaniaeth genedlaethol y DU, ac mae Cymru yn parhau yn rhan bwysig a chyflawn o'r deyrnas.

"Fel rhan o'r penderfyniad sicrhaodd Swyddfa Cymru bod y Weinyddiaeth Drafnidiaeth yn ystyried a ddylai pobl gael dewis pa faner genedlaethol yn y DU i gael ar eu trwydded.

"Dangosodd y gwaith fod costau cynnig y dewis yn ormodol. Roedden ni yn awyddus i sicrhau bod costau yn cael eu cadw cyn ised ag oedd yn bosib.

"Dyw cynnwys Jac yr Undeb ddim yn cael unrhyw effaith ar argaeledd trwyddedau gyrru dwyieithog."

'Penderfyniad hurt'

Dywedodd Mr Williams: "Bydd llawer o bobl yn rhannu fy siomedigaeth yngl欧n 芒 chadarnhad Llywodraeth San Steffan y bydden nhw yn gwrthod rhoi'r dewis o ba faner sy'n ymddangos ar eu trwydded yrru.

"Mae'r honiad mai cost yw'r sail dros y penderfyniad yn hurt. Pwy a 诺yr y byddai newid inc o las i wyrdd yn fenter mor gostus.

"Mae gan y ddeiseb rhyw 6,000 o lofnodau hyd yn hyn, ac rwy'n cyd-drefnu gyda threfnwyr y ddeiseb i'w gyflwyno yn Llundain i geisio cael dadl ar y mater.

"Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ifanc yn ddig iawn y bydd rhaid iddyn nhw dderbyn Jac yr Undeb ar eu trwydded.

"Mi wn i fod llawer yn edrych am ffyrdd i brotestio ar y mater, ac mi wn i y bydden nhw yn cynnig eu cefnogaeth."