麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Owain Arthur

  • Cyhoeddwyd
Owain Arthur

Yr wythnos yma yr actor Owain Arthur sydd yn Ateb y Galw gan Cymru Fyw, wedi iddo gael ei enwebu gan John Ogwen.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd yn yr ystafell fyw yn gwylio mam yn 'hwfro'. Yn 么l y s么n roedd y broses yn fy nghadw'n dawel.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Unrhyw ferch yn ffilmiau James Bond.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Syrthio oddi ar y llwyfan yn y Royal Exchange ym Manceinion tra'n gneud sioe yno. Nes i landio reit ar lin rhyw ferch digon del. Wrth lwc ges i sws ganddi wrth godi ac yna cario 'mlaen efo'r sioe.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Gobeithio na fydda i'n syrthio oddi ar y llwyfan eto!"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Crio chwerthin efo fy ffrindiau dros y Nadolig.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fydda i byth yn gwybod pryd i ddeud na. Gormod o beth da yn ddrwg.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Wedi teithio dros y byd efo 'One Man, Two Guvnors' a sioeau eraill, ma' rhaid i mi ddeud mai Llundain ydy'r ddinas i mi, lle dwi wedi bod yn byw ers dros 10 mlynedd erbyn hyn, gydag Efrog Newydd yn ail agos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n well gan Owain fod yn Llundain ac Efrog Newydd nac ynghanol yr anialwch. Roedd o yn y ffilm 'The Patrol' yn 2013

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae gen i lawer o nosweithiau da o dan fy melt, ond y nosweithiau sy'n sefyll allan ydy'r wythnos o berfformio 'One Man, Two Guvnors' yn Llandudno.

Oes gen ti dat诺?

Oes.

Beth ydi dy hoff lyfr?

'One Day' gan David Nicholls.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

J卯ns. Dwi'n gwisgo nhw bob diwrnod.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Dwi wedi gweld lot yn ddiweddar ond 'The Theory of Everything' sy'n sefyll allan gan fod fy ffrind i ynddo fo.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr actor o Gaerdydd, Gruffudd Glyn, yn perfformio yn y ffilm 'The Theory of Everything'

Dy hoff albwm?

Unrhyw un gan Elbow ond mae albwm newydd Hozier yn cael ei chwarae'n aml gen i drwy'r dydd ar hyn o bryd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Y coffi ar 么l claddu'r tri chwrs.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Tecstio.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Superman. Dwi isio'r gallu i hedfan!!!!!!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Yr actor Richard Harrington.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Petai Owain yn gallu hedfan byddai'n medru helpu yr Uwch Arolygydd Tom Mathias gyda rhai o'i achosion!