麻豆官网首页入口

Ymchwiliad i gynllun Cylchffordd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Delwedd o gynllun Cylchffordd CymruFfynhonnell y llun, Cylchffordd Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ystyried rhai o'r materion cynllunio yn ymwneud 芒'r cynllun i adeiladu trac rasio ym Mlaenau Gwent.

Bydd yr ymchwiliad yn cychwyn am 10:00 ar ddydd Mawrth, 10 Mawrth, yn Swyddfeydd Cyngor Sir Blaenau Gwent, gan bara wyth diwrnod.

Roedd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, sy'n gyfrifol am y cynllun i adeiladu trac rasio Cylchffordd Cymru, wedi gobeithio cychwyn y gwaith adeiladu fis Chwefror diwethaf, ond deallir bod sawl rhan o'r broses gynllunio eto i'w cwblhau, cyn y bydd modd cychwyn ar y gwaith.

Ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd y cwmni y byddan nhw'n cynnal Pencampwriaeth MotoGP am y bum mlynedd nesaf, ond y byddai'n rhaid cynnal y digwyddiad tu allan i Gymru yn 2015 oherwydd na fyddai'r trac rasio yng Nglyn Ebwy wedi'i gwblhau mewn da bryd.

Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yn Donnington Park yn 2015.

6,000 o swyddi

Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud y bydd yn creu 6,000 o swyddi a denu 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Ond ar raglen Newyddion 9 ym mis Medi 2014 cafodd nifer o bryderon eu codi gan reolwyr dau o draciau rasio Cymru yngl欧n 芒'r cynlluniau i ddatblygu Cylchffordd Cymru.

Dywedodd rheolwr un trac rasio bod yr awgrym y gallai datblygiad Cylchffordd Cymru greu 6,000 o swyddi yn "hynod o optimistaidd" ac efallai y byddai'n gallu bod yn fethiant llwyr.

Roedd rheolwr trac rasio arall wedi dweud ei fod yn poeni am sicrhau gwerth am arian.

Mae'r cwmni eisoes wedi derbyn grant o 拢2m gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynllun.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi'r cynllun ac yn dweud eu bod wedi bodloni gyda'r cynllun busnes.

Byddai'r datblygiad, a gynigiwyd gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, yn cael ei adeiladu ar 335 hectar (830 erw) o dir nesaf at Stad Ddiwydiannol Rassau.