麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Richard Harrington

  • Cyhoeddwyd
Harrington

Fel y Ditectif Brif Arolygydd Tom Mathias mae Richard Harrington wedi hen arfer 芒 gofyn cwestiynau. Ond mae'r esgid ar y droed arall yr wythnos hon gan mai fo sy'n cael ei holi gan 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw. Cafodd Richard ei enwebu gan Owain Arthur.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gorwedd yn y pram ac edrych lan ar fy nhadcu yn smygu.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Katrina Wilmot, Susan Smith a'r actor Christopher Reeve oedd yn chwarae rhan Superman.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan dynnodd Mam trwsus a pants fi lawr yng nghanol dre a rhoi smac i fi. On i'n 23.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Pan farwodd fy Mam annwyl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi fy ngwinedd.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Efrog Newydd. 颁濒颈肠丑茅 falle.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sut hwyl fyddai DCI Mathias yn ei gael ar blismona yn Efrog Newydd?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yfed mewn bar yn Efrog Newydd gyda J芒ms Thomas, Rhodri Miles, cardboard cutout o James Dean a dwy ffrind newydd, Georgina ac Antoinette.

Fe wna'th y ddwy droi mewn i George a Tony am bump o'r gloch y bore. I wasn't dreaming and I wasn't in Kansas neither...

Oes gen ti dat诺?

Nagoes.

Beth yw dy hoff lyfr?

New York Trilogy - Paul Auster.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Sgidiau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen p芒r o 'sgidiau cryfion i redeg ar 么l dihirod Ceredigion!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Beware Of Mr Baker.

Dy hoff albwm?

'The Band' gan The Band. Ond mae'n newid pob dydd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs wrth gwrs!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio. Ond fi byth yn ateb y ff么n.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Levon Helm. Cyn y throat cancer.

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?

Lisa Palfrey.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r adegau prin 'na pan gododd Rich y ff么n!