Pryderon dros gau banciau gwledig

Mae pryderon wedi eu codi am ddiffyg banciau mewn ardaloedd gwledig wedi i HSBC gyhoeddi y byddan nhw'n cau un o'u canghennau ym Mhowys .

Dywedodd y banc y byddai'r gangen ym Machynlleth yn cau yn yr haf, wedi i nifer y cwsmeriaid ddisgyn yn sylweddol.

O'r 28 o fanciau sydd wedi cau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mewn 10 achos dyna oedd y banc olaf yn y dref.

Mae trigolion a busnesau wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru bod colli banc lleol yn "anghyfleustra anferthol".

Cynnydd mewn bancio arlein

Mae Trefaldwyn, ym Mhowys, a Thregaron, yng Ngheredigion, ymysg y trefi sydd wedi colli eu banciau.

Hyd yn hyn eleni, mae cyhoeddiadau wedi eu gwneud y bydd wyth o ganghennau ar draws Cymru yn cau eu drysau am y tro olaf.

Mae'r banciau mawrion yn dweud bod y penderfyniad i gau canghennau wedi'i achosi gan gynnydd mawr mewn bancio ar-lein. Erbyn hyn mae pobl yn defnyddio cyfrifon ar y we saith miliwn o weithiau'r dydd.

Yr wythnos ddiwethaf, mi wnaeth banciau Prydain ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ar brotocol ar gyfer cau canghennau er mwyn lleihau'r niwed sy'n cael ei achosi i ardaloedd gwledig.

Mae'r cynllun yn cynnwys cydweithio gyda Swyddfa'r Post er mwyn galluogi cwsmeriaid i dderbyn mwy o wasanaethau.