麻豆官网首页入口

Canolfan Saith Seren yn Wrecsam i gau

  • Cyhoeddwyd
Saith Seren
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Saith Seren

Daeth datganiad nos Lun yn cadarnhau y bydd canolfan Gymraeg Saith Seren yn Wrecsam yn cau fis nesaf.

Fe gafodd yr hen dafarn ei hailagor dair blynedd a hanner yn 么l, dan arweiniad gwirfoddolwyr a gr诺p cydweithredol er mwyn hybu a chefnogi'r Gymraeg yn y dref.

Mae'n ymddangos nad oedd y ganolfan yn talu ac maen nhw wedi methu dod i gytundeb gyda landlordiaid, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn.

Bydd chwech o bobl yn colli'u swyddi.

Cafodd tafarn a chanolfan Gymraeg Saith Seren ei hagor ym mis Ionawr 2012 fel menter gydweithredol.

Yn Ionawr 2014 fe wnaeth y rheolwyr lansio ap锚l i geisio casglu 拢10,000, gan i'r ganolfan fethu a sicrhau grantiau gan amryw o gyrff cyhoeddus.

'Allweddol i'r dyfodol'

Dywedodd llefarydd bod y penderfyniad i gau yn ergyd i ddatblygiad y Gymraeg yn ardal Wrecsam, a hefyd yn ergyd i swyddi yng nghanol y dref.

Un oedd wedi ymgyrchu i sefydlu'r ganolfan ac sydd hefyd yn aelod o bwyllgor adloniant y Saith Seren yw Aled Lewis Evans o Wrecsam.

Dywedodd: "Mae wedi bod yn llwyddiannus, gobeithio y gellir dysgu rhyw fath o batrwm falle y gellir bod yn llwyddiannus ag o i'r dyfodol, achos dwi'n teimlo mai canolfannau fel hyn fydd yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg fel iaith fyw yn y trefi a'r pentrefi hefyd.

Dywedodd bod "angen edrych ar ryw fath o bartneriaeth i ariannu'r llefydd yma. 'De chi'n son am gael adloniant bob wythnos neu bob nos ar adegau - a gwirfoddolwyr ydi pawb, mae hynny hefyd yn anodd dwi'n meddwl.

"Falle daw model newydd o sut i ariannu hyn allan o hyn i gyd."

'Penderfyniadau ariannol call'

Mewn ymateb i ddatganiad am gau canolfan Saith Seren fe ddywedodd Graham Worthington, Prif Weithredwr Gr诺p Cartref Pennaf,

"Rydym wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda thenantiaid ein hadeilad yn 18 Stryd Caer, Wrecsam dros nifer o fisoedd a hynny mewn cysylltiad 芒 materion sy'n ddyledus ac yn anffodus, tydi'r materion yma ddim wedi eu datrys. Felly rydym wedi dod i gytundeb gyda'r tenantiaid iddyn nhw adael yr eiddo.

"Y cam olaf yw diweddu unrhyw denantiaeth sy'n cael ei wneud ar 么l dilyn pob llwybr arall.

"Fel mudiad sy'n derbyn arian cyhoeddus a phreifat mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod gennym ni gyfrifoldeb i wneud penderfyniadau ariannol call ar bob cyfri.

"Mae'n resyn ein bod wedi ein gadael heb opsiwn arall ond i ganfod defnydd arall ar gyfer yr eiddo."

Bydd y ganolfan y cau ei drysau am y tro olaf ar 16 Mai.