麻豆官网首页入口

Comisiynydd: 'Cam yn 么l' i wasanaethau bancio Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Banciau

Mae banciau wedi cymryd "cam yn 么l yn hytrach nag ymlaen" ac mae'r Gymraeg wedi ei "diraddio" yn ddiweddar, yn 么l Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws.

Mewn adroddiad newydd mae'r comisiynydd yn dweud bod angen i fanciau wella eu darpariaeth Cymraeg mewn gwasanaethau ar-lein a digidol.

Mae'n un o nifer o argymhellion ddaw o adolygiad gan y comisiynydd, wedi iddi dderbyn cwynion gan bobl "sy'n siomedig 芒 diffyg darpariaeth Gymraeg y banciau yng Nghymru".

Daeth y nifer fwyaf o gwynion am wasanaethau gweinyddol, tra bod cwynion hefyd am wasanaethau ff么n a diffyg staff Cymraeg.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y gall gwsmeriaid dderbyn "gwasanaethau eilradd ac aneffeithiol" os na fydd banciau yn gwella eu darpariaeth.

Daeth yr adolygiad o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnal gan fanciau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Meri Huws mai'r bwriad oedd cynnig "argymhellion clir" i ddatrys unrhyw wendidau

Dywedodd Meri Huws mai'r bwriad oedd adolygu "cryfderau a gwendidau'r gwasanaethau Cymraeg" sydd ar gael gan y banciau, a chynnig "argymhellion clir ac ymarferol er mwyn gweithio tuag at ddatrys unrhyw wendidau sy'n bodoli".

Cynnydd mawr yn y defnydd o dechnoleg newydd yw un o'r prif heriau i gwsmeriaid sydd eisiau defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn 么l yr arolwg, wrth i bobl ddefnyddio'r we neu apiau arbennig i ddelio gyda'u banciau.

Mae argymhellion y comisiynydd yn cynnwys:

  • Dylid adolygu polis茂au iaith y prif fanciau er mwyn adlewyrchu realiti'r gwasanaethau sydd ar gael, a'r ffordd gellir manteisio ar y dechnoleg ddigidol fydd yn datblygu ymhellach yn ystod ail hanner y degawd.

  • Gwahoddir y banciau i osod amserlen ar gyfer sefydlu gwasanaethau Cymraeg ar-lein, i gynnwys datblygu apiau Cymraeg allai ganiat谩u bancio symudol, a bancio ar-lein.

  • Dylid adolygu gwefannau'r banciau, gan roi dewis iaith i ddefnyddwyr sydd am ddarganfod gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, yn ogystal 芒 chynnwys eu polis茂au iaith.

  • Dylai'r banciau gyflwyno datganiad yngl欧n 芒'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ymhob cangen - gan gynnwys pa staff Cymraeg eu hiaith sydd ar gael ar unrhyw adeg.

  • Dylai pob banc ystyried sut i gynnal ei wasanaeth Cymraeg mewn ardaloedd a effeithir gan gau canghennau, gan dalu sylw i'r ystod eang o gwsmeriaid a allai golli cysylltiad uniongyrchol 芒'u darparwyr.

Mae'r adroddiad yn nodi: "Wrth i'r newidiadau hyn ddigwydd ymddengys bydd llai o gyfleoedd yn bodoli i gwsmeriaid ddefnyddio'r iaith Gymraeg wrth iddynt ddelio 芒'u banciau.

"Mae'n hanfodol felly bod y banciau yn ystyried sut gallant gynnig gwasanaethau digidol fydd yn caniat谩u bancio ar-lein neu symudol trwy 'apiau'."

Mae'r adroddiad yn dweud bod perygl i gwsmeriaid gael "gwasanaethau eilradd ac aneffeithiol" yn y Gymraeg.

Mewn datganiad, dywedodd HSBC eu bod yn cynnig gwasanaethau Cymraeg ac yn cyd-fynd gyda gofynion cyfreithiol.

Ychwanegodd y llefarydd ei fod yn bryder gweld cwynion, ond bod angen adolygiad ehangach i fynd i wraidd y broblem. Er hynny, mae HSBC yn ystyried argymhellion y comisiynydd.