麻豆官网首页入口

Banc i gau 11 cangen yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Corwen Natwest BankFfynhonnell y llun, Eirian Evans/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y gangen Natwest yng Nghorwen yn cau

Mae un o fanciau'r stryd fawr wedi cyhoeddi y bydd 11 cangen yn cau yn y gogledd.

Dywedodd banc y Natwest ei fod wedi gwneud y "penderfyniad anodd" ym mis Medi o achos "ystod eang o ffactorau" gan gynnwys y nifer o bobl sydd yn defnyddio'r canghennau.

Dywedodd llefarydd fod y defnydd gan gwsmeriaid mewn rhai canghennau wedi haneru.

Bydd y banc yn cyflwyno faniau bancio symudol i bob un o'r cymunedau fydd yn colli cangen.

Bydd canghennau'r Natwest yn cau yn Llanelwy, Dinbych, Corwen a Llangollen yn Sir Ddinbych, gyda changhennau Abersoch, Blaenau Ffestiniog a Thywyn yn cau yng Ngwynedd.

Fe fydd canghenau Abergele a Llandrillo-yn-Rhos yn cau yng Nghonwy, gyda changen Bwcle a'r Fflint, yngh欧d 芒'r Orsedd yn Wrecsam yn cau eu drysau am y tro olaf ym mis Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran y Natwest: "Ni allwn wneud sylw am amgylchiadau unigol ac rydym mewn trafodaethau gyda staff am eu dewisiadau.

"Ond rydym bob tro yn ail-leoli staff mewn canghennau cyfagos pan fo hyn yn bosib a chadw diswyddiadau gorfodol i'r lefel isaf posib."