麻豆官网首页入口

Y gyllideb: 拢240m ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Cash

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi cyhoeddi cynnydd o 拢240m mewn gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd, wrth gyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18.

Cyfanswm y gyllideb yw tua 拢14.95bn, sydd ychydig yn llai na'r ffigwr ar gyfer 2015/16.

Ond wrth gyhoeddi ei gyllideb gyntaf fel yr Ysgrifennydd Cyllid, rhybuddiodd Mark Drakeford y byddai "mwy o doriadau i ddod" yn y dyfodol oherwydd toriadau i wariant drwy'r DU.

Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys 拢10m ar gyfer cynllun peilot Llywodraeth Cymru i gynnig 30 awr o ofal am ddim i blant tair a phedair oed.

Ond mae toriadau i rai adrannau o fewn llywodraeth leol, cynlluniau cymunedol ac addysg, gan gynnwys dod 芒'r cynllun 拢20m, Her Ysgolion Cymru, i ben.

Cytundeb 拢119m

Gan bod gan Lafur 29 o'r 60 o seddi yn y Cynulliad, roedd gweinidogion eisoes wedi cyhoeddi cytundeb 拢119m gyda Phlaid Cymru i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei phasio.

Mae mesurau eraill yn cynnwys 拢111m i brentisiaethau a chynlluniau hyfforddi, a 拢4.5m i'w wario ar un o addewidion eraill Llafur - codi'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl i 拢50,000.

Daw'r gwariant ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn honiadau gan Ymddiriedolaeth Nuffield bod angen 拢2.5bn ychwanegol dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae lleihad yn yr arian sydd ar gael i gynghorau ei wario o ddydd i ddydd, ond cynnydd yn yr arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau mawr.

  • Dadansoddiad ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick

"Rydyn ni'n byw mewn cyfnod diddorol, a sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny? Wel drwy gyflwyno cyllideb digon anniddorol.

"Er y s么n am doriadau, mae'r arian sy'n mynd i Lywodraeth Cymru gan San Steffan yn eithaf sefydlog eleni, ac mae'r arian sy'n mynd i gyrff cyhoeddus wedi aros yn eithaf sefydlog.

"Yr eithriad yw iechyd, sy'n gweld cynnydd mawr, ond mae bob tro yn edrych fel cynnydd mawr gan fod iechyd yn cymryd bron hanner gwariant y llywodraeth."

'Dim cuddio rhag heriau'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Drakeford bod y gyllideb wedi'i datblygu yn sgil canlyniad refferendwm yr UE

Wrth gyhoeddi'r gyllideb, dywedodd Mr Drakeford: "Ry'n ni'n dal i wynebu toriadau parhaus i'n cyllideb oherwydd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU. Allwn ni ddim cuddio rhag yr heriau sy'n codi yn sgil hynny.

"Ry'n ni'n wynebu cyfnod y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi'i alw'n gyfnod eithriadol o gwtogi ar wariant cyhoeddus dros 11 mlynedd neu fwy.

"Mae'r Gyllideb hon wedi'i datblygu hefyd yng nghyd-destun canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd a'r ansicrwydd ynghylch dyfodol ffrydiau ariannu hanfodol o Ewrop. Mae ein cynlluniau wedi'u llywio gan yr heriau hyn, na welwyd mo'u tebyg o'r blaen.

"Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, ry'n ni wedi cyhoeddi cyllideb refeniw un flwyddyn, a fydd yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr yn y dyfodol agos wrth i ni fynd ati i gydweithio i gynllunio at y dyfodol."

Wrth ymateb ar ran y Ceidwadwyr dywedodd llefarydd y blaid ar gyllid, Paul Davies, ei fod yn gobeithio y byddai'r gyllideb yn "llwyddo i gymunedau Cymru lle mae cymaint wedi methu".

"Maddeuwch i mi os ydw i'n cadw peth amheuaeth gan fod methiant mewn sawl ardal o fywyd cyhoeddus," ychwanegodd.