Asgob ac Asiffeta!

Ffynhonnell y llun, Bodlon

Asgob ac Asiffeta jiwcs! . Raslas Bach a Mawr!

"Nefar in Iwrop," meddech chi. "Sgersli bil卯f," meddai eich Anti J锚n. "Tawn i'n smecs!" meddai Taid. Ac efallai fod Dai Jones Llanilar wedi dweud "Wanwl!".

Ond mae'n wir, nid insineratio ydyn ni, ac mae'n rhaid eich bod chi'n dwmffat twp ac yn gofyn am slepjan os nad ydech chi'n credu'r peth.

Hanner can mlynedd yn 么l efallai na fyddai'r brawddegau yna wedi gwneud ryw lawer o synnwyr.

Ond, os ydych chi'n eu deall nhw, maen nhw'n deyrnged i rywfaint o'r eirfa newydd sydd wedi ei chyflwyno i'r Gymraeg gan gomed茂wyr a sgriptwyr.

Ryden ni i gyd yn adnabod pobl sy'n hoffi dyfynnu rhipiau hir o sgript C'mon Midff卯ld - trist iawn, feri sad.

Ond hyd yn oed i'r rheiny oedd ddim yn ddilynwyr selog, mae ymadroddion o gyfresi fel Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, C'mon Midff卯ld a'r Ddau Frank yn si诺r o fod wedi sleifio i mewn i'w iaith bob dydd.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, "Wiyyynfff? Pryd fydd 'slepjan' yn y geiriadur?" "Rhyw ddydd, Plwmsan, fab annwyl dy fam. Rhyw ddydd..."

Twpach na thwp

Er nad ydy'r gair yn y geiriadur (pam?), beth arall ond "slepjan" fedrwch chi ei ddweud am wasgu pl芒t o gwstard comedi i wyneb rhywun anffodus?

Mae'n un o'r nifer o eiriau a ddyfeisiodd Wynford Ellis Owen a Mici Plwm mewn corwynt o greadigrwydd yn nechrau'r saithdegau wrth ddatblygu sgriptiau ar gyfer rhaglen Teliffant ac, yn ddiweddarach, Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan.

"Mae geirfa Syr Wynff a Plwmsan bellach wedi dod yn ddywediadau bob dydd," meddai Mici Plwm, gan ein hatgoffa gyda balchder fod y gair slepjan wedi ei ddefnyddio yn un o gerddi'r diweddar Athro Gwyn Thomas.

"Gair slapstig ydy slepjan. Doeddan ni ddim yn ista lawr ac yn meddwl pa air fedran ni gael ond os oeddan ni'n sgriptio roedd Wynff yn deud 'Gad hi, mi ddoith rwbath'. A slepjan dd么th."

Maen nhw'n meddwl mai nhw hefyd oedd y cyntaf i ddefnyddio 'twmffat' fel term dirmygus - fel arfer gan Syr Wynff, y dyn "piwsig, piwsig", am Plwmsan, "y twmffat twpach na thwp".

"Mae 'twmffat' wedi ennill ei blwy hefyd," meddai Mici. "Fyddai'n clywed y gair twmffat yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, Mr Picton yn ei alw ar Wali, 'taw y twmffat!'"

Disgrifiad o'r llun, Criw C'mon Midff卯ld pan oedd hi'n dal yn gyfres radio - efo Phylip Hughes, nid Bryn F么n, yn actio Tecs!

A chyn Mr Picton, gair am ffisig efo blas afiach oedd asiffeta ond mae bellach yn rheg gynhenid Gymraeg - er yn ddiniwed ac efallai'n eironig - wedi iddo gael ei anfarwoli gan Mei Jones ac Alun Ffred Jones, sgriptwyr C'mon Midff卯ld.

Mae "Asiffeta!" Mr Picton yn debyg iawn i'r "Asgob!" a'r "Raslas!" fyddai Syr Wynff yn ei ebychu i'r camera efo ceg gam yn y 70au.

Am nad oedden nhw'n cael rhegi y datblygodd rhain (fel "Mwnci Nel").

"Mi ddaru jyst digwydd yn naturiol oherwydd diffyg rhegfeydd yn yr iaith Gymraeg," meddai Wynford Ellis Owen, creadwr yr ego-manic Syr Wynff ap Concord y Bos.

"Mi oeddan ni'n gwneud lot o ryw gampau ac yn y blaen a'r ymateb naturiol mewn gwirionadd oedd rheg ond doeddach chi ddim yn gallu gwneud hynny.

"Felly ryw fath o ebychiada oeddan nhw i gychwyn wedi datblygu o'r diffyg ebychiadau addas i gyfleu'r boen neu rhwystredigaeth oedden ni'n deimlo."

Tic tacs a Torri Gwynt

O C'mon Midff卯ld wedyn mi gafon ni "insineratio", "camsefyllian" a "tic-tacs".

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Meirion Davies a Rhys Ifans yn mynd '么l ddy w锚' ar Pobol y Chyff

A beth am y ddau Frank oedd yn "Siarad Cymraeg 脭l Ddy W锚" ac yn cael amser "Chyffin Gr锚t"?

Ffefryn Mici o berlau'r ddau Frank ydy "cwsg-gerdded": "Dwi'n licio hwnna'n ofnadwy - 'be 'dan ni'n neud r诺an Frank? Dani'n cwsg-gerdded Frank'."

Roedd 'na raglenni teledu a radio cynharach wedi poblogeiddio ymadroddion yn yr iaith bob dydd hefyd.

Mi roddodd Fo a Fe, comedi sefyllfa Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones efo Ryan Davies a Guto Roberts, "Nefar in Iwrop Gwboi" inni a daeth "hwnna dio", "sgersli bil卯f" a'r "Ingland Refeniw" gan Ifas y Tryc yn rhan o eirfa'r 60au diolch i sgript radio Wil Sam a llais yr actor Stewart Jones.

Disgrifiad o'r llun, Comedi gogledd a de Ryan Davies a Guto Roberts yn Fo a Fe 1971

Daw "Tawn i'n smecs!" o gyfres radio S.O.S Galw Gari Tryfan gan Idwal Jones yn y 50au.

Ymlaen i'r 80au ac roedd ymadroddion fel "Blydi Static!" yn cael eu hailadrodd dros Gymru diolch i gyfres sgetsus comedi Torri Gwynt gan HTV.

Hawddamor a howdi d诺

Erbyn hyn, catchphrase ydy'r gair am rhain, ond dod yn naturiol fel rhan o'r sgript a'r cymeriadu wnaethon nhw bryd hynny meddai'r ddau sgwennwr.

"Doedd catchphrases ddim yn betha' adag hynny," meddai Wynford Ellis Owen.

"Cofiwch oeddan ni'n dechra tua 1972, jest cyn i Pobol y Cwm ddod ar yr awyr. Wedyn wrth i'r cymeriad ddatblygu ac esblygu roedd isho ryw synau a geiriau oedd ddim ar gael yn Gymraeg rhywsut."

Roedd eu cefndir Cymraeg a'u gafael sicr ar yr iaith yn help hefyd meddai'r ddau - Wynford yn fab i weinidog a Mici'n fab i chwarelwr.

"Mae Cymraeg Syr Wynff yn safonol iawn, yn aml iawn mae 'na gynghanedd yna hefyd," meddai Wynford.

"Mae ei iaith yn feiblaidd i raddau ac mae ymadroddion fel 'Helo bawb a howdi d诺' a 'ta ta tan toc' bellach yn cael eu defnyddio gan stiwdants a rhaglenni plant. A dwi'n clywed Aled Sam yn dweud 'hawddamor a howdi d诺' ar ddechrau ei raglen.

"Syr Wynff sy' bia rheina i gyd."

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Oes 'na rywun yn camsefyllian?

Wnaethon nhw erioed feddwl eu bod nhw'n creu geiriau fyddai'n para meddai Mici Plwm: "Oeddan ni'n d诺ad 芒 petha oedd y ddau ohonan ni 'di clywed yn ein magwraeth."

Roedd hynny'n cynnwys parod茂o adnodau roedd Mici wedi eu dysgu o'r Beibl: "Ac yn y wlad honno roedd locustiaid a mul gwyllt yn hytrach na m锚l gwyllt. Ryw betha o'n i 'di dod efo fi yn 'y mhen, i'w defnyddio pan oedd angen!

"Mae'r storfa yna'n handi i rywun sydd yn sgriptio."

Disgrifiad o'r llun, Cast 'Teliffant' yn nechrau'r 70au

"Am ryw reswm mae'r eirfa 'di aros," meddai Wynford Ellis Owen, "mae rwbath 'di bachu yn ymwybyddiaeth pobl rhywsut.

"Y peth amdano fo ydy ei fod o'n oesol a doedd 'na ddim geiria' Saesneg yn dod i mewn iddo fo mewn gwirionedd. Roedd y storis i gyd hefyd yn deillio o betha' Cymreig o ran eu natur - doedd 'na ddim byd estron yn perthyn iddo fo rhywsut."

Pa ymadroddion ydych chi'n gofio? Gadewch inni wybod! cymrufyw@bbc.co.uk