麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Tara Bethan

  • Cyhoeddwyd
bbcFfynhonnell y llun, Iolo Penri

Tara Bethan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Carys Eleri yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Y pella' n么l dwi'n cofio ydy cael fy ngwarchod gan y reslwyr gefn llwyfan tra oedd mam a dad front of house yn gweithio.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roedd gen i gariad o'r enw Barry Dimelow fwy neu lai drwy gydol ysgol gynradd... nes i ddechra'n ifanc.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Es i drwy gyfnod o gerdded yn fy nghwsg, a chamgymryd darnau o ddodrefn fel toiled. Dwi'n falch iawn o allu deud bod y cyfnod hwnnw drosodd!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe ella? Dwi'n crio'n aml. Dwi wastad 'di bod yn un emosiynol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o atgofion cynta' Tara ydy mynd i ornestau reslo gyda ei diweddar dad Orig Williams, y reslwr El Bandito

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n ofnadwy o clumsy... costus a phoenus.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Rhiw ym Mhen Ll欧n. Mi fyddai'n mynd yna yn fy fan i gampio mewn cae sydd ar glogwyn yn edrych tuag at y canolbarth.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi'n un sy'n gneud y mwyaf allan o ddathliadau felly mae'n anodd dewis un penodol. Un reit diweddar sy'n sticio yn y cof oedd perfformio gyda Charlotte Church ym mhabell y Rabbit Hole yn Glastonbury y llynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mi berfformiodd Tara efo Charlotte Church yn The Late Night Pop Dungeon yn Glastonbury y llynedd

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Eithafol, diog, gwrthddywediadol.

Beth yw dy hoff lyfr?

The Life-Changing Magic of Not Giving a F**k gan Sarah Knight.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Gandhi. Dwi wedi treulio cryn dipyn o amser yn India ac wedi ymweld 芒 Phacistan, mae gen i lot o gariad tuag y ddau le ond mae'r gwrthdaro rhyngddyn nhw yn drist, felly bysa gallu dysgu mwy am ddechra'r helynt gan y g诺r heddychlon ac ysbrydol ei hun yn eitha c诺l.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Mae gan fy ffrind gorau a finnau gardiau unlimited i sinema yng Nghaerdydd. Felly 'dan ni'n cyfarfod un noson yr wythnos i weld y ffilm diweddara'. Yn anffodus nes i anghofio fy ngherdyn wythnos dwetha' felly benderfynon ni fynd am two-for-one cocktails!

Ffynhonnell y llun, S4C

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Myfyrio am awr i drio derbyn 'y diwedd' a wedyn casglu fy hoff bobl i gyd mewn un lle a thaflu diawl o barti.

Dy hoff albwm?

Dwi'n tueddu i fynd trwy gyfnodau o obsessio dros un albwm wedyn symud ymlaen at un arall. Ar hyn o bryd Getz/Gilberto gan Stan Getz a Joao Gilberto sydd ar l诺p genai.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?

Swshi ydy fy hoff fwyd - cwrs cyntaf, ail a phwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump, a faswn i'n ymddiswyddo.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Dilwyn Morgan